Skip page header and navigation

Diploma mewn Astudiaethau Gwasanaethau Adeiladu Lefel 1 (Cwrs Coleg)

  • Campws Rhydaman
1 flwyddyn

Mae crefftau adeiladu yn sgiliau deniadol y mae galw mawr amdanynt o fewn diwydiant enfawr sy’n tyfu’n gyflym.

Mae’r rhaglen lefel un hon yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau trydanol a gwaith plymwr cyffredinol gan ganiatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfaol fel trydanwr.

Byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith trydanol a gwaith plymwr domestig sy’n cynnwys gweithio gyda cheblau, gosod platiau socedi a switshis golau, cynhyrchu diagramau cylched, yn ogystal â sodro ac uniadu pibwaith i gynnwys plygiadau â pheiriant, gosod pibellau plastig a chopr a ffitio offer ystafelloedd ymolchi.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr gan eu galluogi i symud ymlaen i’r diwydiant yn eu crefft ddewisol.   

Cafodd ei ddatblygu’n benodol i’w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae’r profion wedi’u seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.  

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.  Hefyd, fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr yn cwblhau sgiliau hanfodol neu sylfaenol. 

Darperir cyfleoedd yn ogystal i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg ac i ddatblygu’r iaith Gymraeg. 

Bydd pob dysgwr yn cwblhau uned cyflwyniad i iechyd a diogelwch orfodol,  unedau diwydiant cyffredinol a chymysgedd o unedau trydanol a gwaith plymwr penodol i’r grefft.  

Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn cynnwys prentisiaethau neu gymwysterau llawn amser eraill sy’n gysylltiedig ag adeiladu a fydd yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o grefftau yn y diwydiant adeiladu.  

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy’n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.  

TGAU graddau A* i G mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg neu Adeiladu’r Amgylchedd Adeiledig L1/2 CBAC neu fyfyriwr hŷn.  Byddem yn argymell bod myfyrwyr â graddau TGAU A*-D yn ystyried gwneud cais am y cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2.  

Yn ogystal bydd angen i ymgeiswyr fynychu cyfweliad llwyddiannus. Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb hefyd yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.

Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain sy’n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.