Skip page header and navigation

Prentisiaeth Uwch - Rheolaeth Adeiladu neu Syrfeo Meintiau Lefel 5 (Cwrs Prentisiaeth)

  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
36 Mis

Mae’r diwydiant adeiladu yn parhau i gynnig cyflogaeth werth chweil a pharhaus yn y DU a thramor, o godi tai i brosiectau seilwaith a chyfalaf mawr, i gyd yn cael eu cyflawni gyda chefnogaeth dulliau cynaliadwy, ac ethos o ofal cymunedol ac amgylcheddol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
36 Mis

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r prentisiaethau Rheolaeth Adeiladu / Syrfeo Meintiau yn cynnig  dealltwriaeth i fyfyrwyr o dechnegau dylunio, methodoleg a gweithrediad prosiectau o’r dechreuad i’r amser pan y’u trosglwyddir i Gleient, gan dynnu ar astudiaethau achos y DU a rhai byd-eang er mwyn adeiladu gwybodaeth o ran defnyddio sgiliau’n ymarferol a phroffesiynol ar gyfer cyflogaeth.

  • Diploma Cenedlaethol Uwch - Rheolaeth Adeiladu neu Syrfeo Meintiau
  • Diploma NVQ Lefel 5 Edexcel mewn Rheolaeth Adeiladu (Cynaladwyedd)
  • Sgiliau Hanfodol
  • Cymhwyso rhif Lefel 2 a Chyfathrebu Lefel 2

Bydd y rhaglen hon yn bodloni gofynion y diwydiant, ac wrth wneud hynny’n darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n heriol yn ddeallusol sy’n gysylltiedig â diwydiant a chyrff proffesiynol, gofyniad sy’n diwallu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. 

At hynny, mae tîm y rhaglen wedi datblygu nodau’r cwrs er mwyn gwella datblygiad cymhwysedd technegol a hyfforddiant ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion presennol y diwydiant am reolwyr canol.  

Mae deilliannau modiwlau’n mynd i’r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau ynghyd â deilliannau mwy cyfarwydd fel damcaniaethau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion cleientiaid. Yn ychwanegol at y rhain mae amrywiaeth o sgiliau lefel uwch sydd wedi’u cynllunio i integreiddio â deilliannau’r modiwlau.    

  • NVQ - Portffolio o dystiolaeth
  • Diploma Cenedlaethol Uwch - Arholiad ysgrifenedig, Tasgau gosod/Asesiad Synoptig
  • Sgiliau hanfodol - Asesiadau ar-lein/yn y ganolfan

Rhaid i bob prentis fod yn gyflogedig ac yn cael ei gefnogi a’i gymeradwyo’n llawn gan y cyflogwr.  Rhaid iddo feddu ar gymhwyster lefel tri perthnasol ac yn ddelfrydol meddu ar raddau C neu uwch mewn mathemateg a Saesneg ar lefel TGAU.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol yn ystod eu hastudiaethau ond darperir cefnogaeth.

Mae prentisiaethau’n addas ar gyfer gweithwyr cyflogedig newydd a phresennol.

Os ydych yn gymwys, mae prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu hariannu’n llawn.