Prentisiaethau Peintio ac Addurno (Cwrs Prentisiaeth)
- Campws Rhydaman
Mae’r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Peintio ac Addurno wedi’i chynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddysgwyr sydd eu hangen i ragori yn y diwydiant adeiladu. Mae’r rhaglen gynhwysfawr hon yn cynnwys cymwysterau, sgiliau hanfodol, a hyfforddiant ar/i ffwrdd o’r gwaith. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar baratoi arwynebau cefndirol, rhoi paent, a hongian papurau wal ar arwynebau cymhleth gan sicrhau y gall dysgwyr weithio mewn lleoliadau masnachol, diwydiannol a phreswyl. Wedi’i chefnogi gan CITB ac yn gymwys ar gyfer cyllid Llywodraeth Cymru, nod y brentisiaeth hon yw datblygu gweithwyr proffesiynol medrus, sy’n ymwybodol o ddiogelwch.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfuniad o wybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol. Bydd dysgwyr yn ennill profiad ymarferol ar y safle ac mewn amgylcheddau hyfforddi hefyd, ac mae cyfanswm gwerth credyd o 78 o gredydau’n ofynnol. Mae’r cwricwlwm yn cwmpasu sgiliau hanfodol mewn cyfathrebu a chymhwyso rhif, wedi’u halinio â safonau a rheoliadau’r diwydiant. Cyflwynir hyfforddiant yn Gymraeg ac yn Saesneg hefyd, gan ddarparu ar gyfer ystod amrywiol o ddysgwyr. Yn ogystal bydd prentisiaid yn datblygu cymwyseddau craidd fel ymwybyddiaeth o ddiogelwch, rheoli risg ac arfer barn broffesiynol, gan eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn peintio ac addurno.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cymwysterau, sgiliau hanfodol, a hyfforddiant helaeth ar/i ffwrdd o’r gwaith. Mae meysydd astudio allweddol yn golygu paratoi arwynebau, rhoi paent, a hongian papurau wal. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu sgiliau mewn iechyd a diogelwch, rheoli risg, ac ymddygiad proffesiynol.
Ar gwblhau, bydd prentisiaid yn gymwys ar gyfer Cerdyn Crefft Uwch CSCS a gallant ddilyn amrywiol lwybrau gyrfa, gan gynnwys rolau goruchwylio safle a rheolaeth. Mae cyfleoedd academaidd pellach ar gael, fel prentisiaethau lefel-uwch ac addysg bellach mewn meysydd cysylltiedig ag adeiladu.
Asesir trwy gyfuniad o werthusiadau ymarferol, gwaith cwrs, ac arholiadau, gan sicrhau bod dysgwyr yn arddangos cymhwysedd mewn gwybodaeth ddamcaniaethol ac wrth gymhwyso’r wybodaeth yn ymarferol hefyd.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 16+ oed ac wedi cwblhau cymwysterau sylfaenol perthnasol mewn adeiladu neu feddu ar brofiad cyfwerth. Mae cymwysterau derbyniol yn cynnwys Tystysgrifau neu Ddiplomâu Lefel 2/3. Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru, a chymwysterau TGAU mewn pynciau perthnasol. Rhoddir ystyriaeth hefyd i brofiad gwaith profadwy yn y grefft.
TGAU graddau D neu uwch mewn pwnc seiliedig ar gyfathrebu, pwnc sail rifiadol a phwnc sail dechnegol.
Er bod y brentisiaeth ei hun wedi’i hariannu, gall dysgwyr fynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar diogelu personol, gwerslyfrau, a theithio i safleoedd hyfforddi. Efallai bydd cyflogwyr yn talu rhai o’r treuliau hyn, ond cynghorir prentisiaid i gyllidebu ar gyfer y costau posibl hyn.