Skip page header and navigation

Gradd Sylfaen mewn Rheolaeth a Thechnoleg Adeiladu (Gradd Sylfaen)

  • Campws Rhydaman
18 Mis

Mae Gradd Sylfaen mewn rheolaeth a thechnoleg adeiladu (FdSc) yn rhaglen israddedig dwy flynedd sy’n rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i fyfyrwyr o egwyddorion rheolaeth adeiladu a’r agweddau technolegol sy’n gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu.

Mae’r diwydiant adeiladu yn ddiwydiant sy’n tyfu’n gyflym gyda llawer o lwybrau ar gyfer dilyniant gyrfaol sy’n cynnig byd o gyfleoedd.

Caiff y rhaglen 18 mis ran-amser hon ei dilysu a’i achredu gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a bwriedir iddi adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a enillwyd o ganlyniad i astudiaeth flaenorol.  Fe’i cynlluniwyd i ddarparu cymhwyster sy’n addas ar gyfer y bobl hynny sydd eisoes yn ymarfer, y rheiny sy’n bwriadu ymarfer fel uwch dechnegwyr a’r rheiny sydd am symud ymlaen i astudiaeth bellach.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
18 Mis

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Prif nod y cwrs yw diwallu anghenion newidiol yr amgylchedd adeiledig trwy baratoi’r rheiny sy’n astudio ar y lefel hon i ennill gradd sylfaen gydnabyddedig sy’n cwrdd ag anghenion y diwydiant ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant ac sy’n gallu dangos tystiolaeth o lefel briodol o gyfrifoldeb yn eu rôl.

Mae’r rhaglen fodiwlaidd yn cynnwys pum modiwl (cyfanswm o 120 o gredydau lefel pump).  Dyfernir cymhwyster pan fydd yr holl fodiwlau wedi’u cwblhau’n llwyddiannus.  

  • Datblygu Cynaliadwy
  • Ymchwil Beirniadol
  • Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Technoleg Adeiladu
  • Ymarfer Proffesiynol

Mae’r cwrs hwn yn darparu cyfle i’r rheiny sy’n dymuno symud ymlaen, neu ddechrau, mewn ystod o yrfaoedd sy’n gysylltiedig ag adeiladu megis technoleg bensaernïol, rheolaeth prosiectau, rheoli adeiladu, tirfesur, rheolaeth safle, cynnal a chadw a gwasanaethau.   Mae yna gyfle i’r rheiny sy’n astudio ar y lefel hon i symud ymlaen i raglen astudio gradd anrhydedd yn amodol ar gwblhau’r modiwlau a chredydau gofynnol yn llwyddiannus.

Asesir y modiwlau trwy gyfuniad o aseiniadau ac arholiadau, ynghyd â dyddiadur profiad gwaith cymeradwy (ar gyfer y dyfarniad llawn). 

HNC Rheolaeth a Thechnoleg Adeiladu (120 credyd L4) neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) sy’n gysylltiedig ag adeiladu neu gyfwerth gyda phroffil credyd priodol yn amodol ar gymeradwyaeth y brifysgol. 

Mae’r brifysgol yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol.  Gellir cael manylion pellach gan diwtor y cwrs. 

Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.