Skip page header and navigation

Diploma Lefel 1 mewn Gwaith Saer ac Asiedydd (Cwrs Coleg, Lefel 1)

  • Campws Aberteifi
1 Flwyddyn

Gall gwaith saer ac asiedydd fod yn yrfa foddhaus a gwerth chweil i unigolion sy’n mwynhau gweithio gyda’u dwylo, sydd â llygad am fanylion, ac sy’n meddu ar sgiliau ymarferol.

Mae’r diploma lefel un hwn yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau gwaith saer ac asiedydd.  Mae’n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa mewn gwaith saer neu asiedydd.  Byddwch yn cynhyrchu amrywiaeth o uniadau gwaith coed cysylltiedig â gwaith saer sy’n cael eu defnyddio yn y diwydiant ac yn defnyddio gwahanol offer llaw ac offer pŵer yn ddiogel.  Hefyd, bydd unedau egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu yn rhoi cyflwyniad i chi i dechnoleg adeiladu.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr er mwyn eu galluogi i weithio yn niwydiant eu crefft ddewisol. Cafodd ei ddatblygu’n benodol i’w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae’r profion wedi’u seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.  Mae’r coleg yn darparu cyfleuster cynllun agored mawr gyda’r dechnoleg ddiweddaraf ynddo sy’n caniatáu ymgymryd ag ystod eang o dasgau cysylltiedig â’r diwydiant.

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.

Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn cynnwys prentisiaethau neu gymhwyster diploma lefel 2 llawn amser a fydd yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o’r diwydiant adeiladu.  

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy’n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy’n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol