Prentisiaethau Gosod Trydanol (Cwrs Prentisiaeth)
- Campws Rhydaman
Mae’r Llwybr hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn Gosod Electrodechnegol, gan ddarparu llwybr strwythuredig i ddod yn drydanwr cymwysedig. Mae’n cynnwys cymwysterau gorfodol, hyfforddiant sgiliau hanfodol, a dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith hefyd, y cwbl yn unol â safonau diwydiant a gofynion cyllid Llywodraeth Cymru.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfuniad cynhwysfawr o wybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol, yn cwmpasu iechyd a diogelwch, gosod systemau trydanol, a diagnosio diffygion. Mae’n diweddu gyda’r asesiad AM2S i sicrhau bod yr holl brentisiaid yn bodloni safonau’r diwydiant ar gyfer trydanwr cymwysedig.
Ar gwblhau, gall prentisiaid wneud cais am Gerdyn Aur Gosod Trydanol, symud ymlaen i gymwysterau Lefel 4/5, prentisiaethau uwch, neu fynd ymlaen i rolau fel Technegydd, Rheolwr Prosiectau, neu Beiriannydd Siartredig.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cymwysterau, sgiliau hanfodol (cyfathrebu, rhifedd, llythrennedd digidol), a hyfforddiant helaeth ar/i ffwrdd o’r gwaith yn dod i gyfanswm o 7992 o oriau.
Mae’r asesu’n cynnwys tasgau ymarferol, profion gwybodaeth, a’r asesiad AM2S terfynol.
Gall costau gynnwys cyfarpar diogelu personol, gwerslyfrau, a ffioedd asesu AM2S. Bydd cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn aml yn talu’r treuliau hyn, ond dylai prentisiaid gadarnhau hyn ar y dechrau.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 16+ oed, yn gweithio yn y maes crefft, ac yn bodloni asesiadau mynediad neu gymwysterau penodol (e.e., cymwysterau TGAU, cymwysterau galwedigaethol perthnasol). Mae’n bosibl y gall rai cymwysterau a gyflawnwyd yn flaenorol olygu y caiff dysgwyr eu heithrio o fodiwlau craidd penodol.
TGAU graddau C neu uwch mewn pwnc seiliedig ar gyfathrebu, pwnc sail rifiadol a phwnc sail dechnegol.