Skip page header and navigation

Prentisiaethau Gwaith Plymwr a Gwresogi (Cwrs Prentisiaeth)

  • Campws Rhydaman
48 Mis

Mae’r llwybr prentisiaeth hwn yn canolbwyntio ar roi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddysgwyr i osod a chynnal a chadw systemau gwaith plymwr a gwresogi mewn adeiladau preswyl, masnachol a diwydiannol. Mae’n cwmpasu meysydd megis iechyd a diogelwch, cydymffurfiad rheoleiddiol, a datblygiadau technolegol yn y sector. Bydd dysgwyr yn mynd i’r afael â rhaglen ddysgu gynhwysfawr yn cynnwys cymwysterau, datblygu sgiliau hanfodol, a hyfforddiant ar/i ffwrdd o’r gwaith, gan sicrhau eu bod yn gymwys ac yn barod ar gyfer amrywiol rolau yn y diwydiant.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
48 Mis

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd cyfranogwyr yn ennill Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Plymwr a Gwresogi oddi wrth EAL, sef cyfanswm o 140 o gredydau. Mae’r rhaglen yn integreiddio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, a Llythrennedd Digidol. Mae’n cynnwys hyfforddiant helaeth yn y gwaith (5520 o oriau) ac i ffwrdd o’r gwaith (1380 o oriau), gan feithrin sgiliau ymarferol ochr yn ochr â gwybodaeth ddamcaniaethol.

Mae’r cwricwlwm yn cwmpasu gosod, cynnal a chadw, ac archwilio systemau gwaith plymwr a gwresogi, cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch, a gwaith trydanol sy’n gysylltiedig â systemau gwaith plymwr

Mae cwblhad llwyddiannus yn paratoi prentisiaid ar gyfer rolau fel Technegydd, Rheolwr Prosiect, neu Beiriannydd Siartredig. Hefyd mae’n hwyluso dilyniant i addysg uwch neu gymwysterau galwedigaethol arbenigol.

Mae asesu’n cynnwys arsylwadau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, ac arholiadau yn unol â safonau diwydiant, gan sicrhau cymhwysedd o ran gwybodaeth a sgiliau hefyd.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 16+ oed, yn gweithio yn y maes crefft, ac yn bodloni asesiadau mynediad neu gymwysterau penodol (e.e. cymwysterau TGAU, cymwysterau galwedigaethol perthnasol).

Mae’n bosibl y gall rai cymwysterau a gyflawnwyd yn flaenorol olygu y caiff dysgwyr eu heithrio o fodiwlau craidd penodol. TGAU graddau C neu uwch mewn pwnc seiliedig ar gyfathrebu, pwnc sail rifiadol a phwnc sail dechnegol.

Insert info