Skip page header and navigation

Diploma mewn Sgiliau Crefftau Adeiladu L1 (Cwrs Coleg, Lefel 1)

  • Campws Aberteifi
1 Flwyddyn

Mae adeiladu yn ddiwydiant eang sy’n cynnwys cynllunio, dylunio, adeiladu a chynnal a chadw adeileddau a seilwaith. Mae’n cwmpasu ystod eang o weithgareddau ac arbenigeddau, gan gynnwys prosiectau adeiladu preswyl, masnachol, diwydiannol a sifil.

Mae’r rhaglen hon yn cyflwyno myfyrwyr i amrywiol sgiliau crefftau adeiladu (gweler opsiynau). Mae’n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa mewn gwaith saer ac asiedydd neu mewn gosod brics ac aml-sgiliau.

Dewisiadau Opsiwn

  • Gosod brics ac Aml-Sgiliau
  • Gwaith Saer ac Asiedydd

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr gan eu galluogi i symud ymlaen i’r diwydiant yn eu crefft ddewisol.   

Cafodd ei ddatblygu’n benodol i’w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae’r profion wedi’u seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.  

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.  Fel rhan o’r rhaglen bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau Sgiliau Hanfodol neu Sylfaenol. 

Darperir cyfleoedd yn ogystal i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg ac i ddatblygu’r iaith Gymraeg. 

Bydd pob dysgwr yn cwblhau uned orfodol Cyflwyniad i iechyd a diogelwch, ac amrywiaeth o unedau diwydiant cyffredinol ac unedau penodol i’r grefft.

Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn cynnwys prentisiaethau neu gymwysterau llawn amser eraill sy’n gysylltiedig ag adeiladu a fydd yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o grefftau yn y diwydiant adeiladu.  

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy’n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.  

TGAU graddau A*-G mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg neu adeiladu’r amgylchedd adeiledig L1/2 CBAC.  Yn ogystal, bydd angen i ymgeiswyr fynychu cyfweliad llwyddiannus.  Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb hefyd yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.  Mae croeso i fyfyrwyr hŷn wneud cais.

Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain sy’n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.