Skip page header and navigation

Prentisiaeth Sylfaen - Gweithrediadau Sgaffaldio (Cwrs Prentisiaeth)

  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
22 Mis

Bydd y brentisiaeth lefel dau hon yn eich galluogi i ddangos eich sgiliau a’ch gwybodaeth i brofi eich cymhwysedd mewn amgylchedd gweithle go iawn. Caiff y cwrs hwn ei gefnogi gan y Conffederasiwn Mynediad a Sgaffaldio Cenedlaethol (NASC) a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dechrau’r broses o gael cerdyn Cynllun Cofnodi Sgaffaldwyr y Diwydiant Adeiladu. (CISRS) sef cynllun diwydiant y DU ar gyfer hyfforddiant sgaffaldiau.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
22 Mis

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cymhwyster hwn yn eich galluogi chi, y dysgwr, i ddangos ac adnabod eich sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth fel y gallwch symud ymlaen i hyfforddiant pellach ar lefel 3 neu ar ôl cwblhau lefel 2 yn llwyddiannus, symud ymlaen i rôl swydd yn y gweithle.

Mae’r cymhwyster hwn yn eich galluogi chi, y dysgwr, i ddangos ac adnabod eich sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth fel y gallwch weithio fel Sgaffaldiwr yn y diwydiant adeiladu.

  • Atal cwympiadau ym maes sgaffaldio
  • Iechyd, diogelwch a lles mewn adeiladu a diwydiannau cysylltiedig
  • Codi a datgysylltu sgaffaldiau to,
  • sgaffaldiau tŵr alwminiwm parod, tyrau sefydlog,
  • sgaffaldiau cantilifer, sgaffaldiau tŵr sylfaenol,
  • sgaffaldiau annibynnol a phwtlog sylfaenol a sgaffaldiau cawell sylfaenol.
  • Gwybod am wybodaeth dechnegol, meintiau a
  • Chyfathrebu ag eraill
  • Technoleg adeiladu
  • Defnyddio darpariaeth ar gyfer amddiffyn rhag cwympiadau
  • Systemau/cyfarpar.

Yn ogystal, byddwch yn ennill Diploma NVQ lefel dau mewn Gweithrediadau Mynediad a Rigio (Adeiladu) - Sgaffaldio 600/8244/6.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dechrau’r broses i gael cerdyn CISRS.

Beth yw Cerdyn CISRS?  Mae’r Cerdyn CISRS yn dwyn ei enw o’r cynllun hyfforddi Cynllun Cofnodi Sgaffaldwyr y Diwydiant Adeiladu. CISRS yw cynllun diwydiant y DU ar gyfer hyfforddiant sgaffaldiau. Mae CISRS yn darparu ystod o gardiau sgiliau ar gyfer y rheiny mewn amrywiol rolau sy’n ymwneud â sgaffaldio.

  • Portffolio ar gyfer NVQ
  • Asesiadau ymarferol
  • Arholiadau a phrofion ar-lein

Cewch eich asesu yn erbyn set o ddatganiadau perfformiad a gwybodaeth sy’n deillio o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer eich maes galwedigaethol.  Byddwch yn cael eich hyfforddi a’ch asesu gan hyfforddwr sy’n alluog yn alwedigaethol ac yn gymwys a’i dasg yw eich helpu i gwblhau eich cymhwyster.

Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer dilyn y cymhwyster hwn. Gellir cwblhau’r cymhwyster hwn heb unrhyw hyfforddiant blaenorol neu gymwysterau yn y maes pwnc hwn. Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar radd G neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg (neu gyfwerth) gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathebu.  Rhaid i chi fod yn teimlo’n gyfforddus yn gweithio ar uchder.