Skip page header and navigation

Diploma mewn Sgiliau Crefftau Adeiladu Lefel 1 (Cwrs Coleg)

Mae crefftau adeiladu yn sgiliau deniadol y mae galw mawr amdanynt yn aml.

Os nad ydych yn siŵr pa grefft fyddai orau gennych, yna bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i chi i’r sector adeiladu ynghyd â rhagflas o’r set sgiliau sydd eu hangen ar grefftwr.

Cyfeiriwch at y dewisiadau opsiwn er mwyn dethol llwybr i ddysgu sgiliau mewn dau faes crefft.   Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa yn eich maes dewisol.

Dewisiadau Opsiwn 

  • Bricwaith a Gweithrediadau Sifil
  • Gwaith Saer a Theilsio Waliau
  • Plastro ac Aml-grefftau
  • Peintio, Addurno ac Aml-grefftau

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr gan eu galluogi i symud ymlaen i’r diwydiant yn eu crefft ddewisol.  

Cafodd ei ddatblygu’n benodol i’w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae’r profion wedi’u seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn. 

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.  Fel rhan o’r rhaglen bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau datblygiad sgiliau llythrennedd a rhifedd hanfodol neu sylfaenol.

Darperir cyfleoedd yn ogystal i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg ac i ddatblygu’r iaith Gymraeg.

Bydd pob dysgwr yn cwblhau uned cyflwyniad i iechyd a diogelwch orfodol, ac amrywiaeth o unedau diwydiant cyffredinol ac unedau penodol i’r grefft. 

Yn ogystal cyfeiriwch at yr adran ar opsiynau aml-grefft sydd ar gael.   

Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn cynnwys prentisiaethau neu gymwysterau llawn amser eraill sy’n gysylltiedig ag adeiladu a fydd yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o grefftau yn y diwydiant adeiladu.  

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy’n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.  

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

TGAU graddau A* i G mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg neu Adeiladu’r Amgylchedd Adeiledig L1/2 CBAC neu fyfyriwr hŷn.  Byddem yn argymell bod myfyrwyr â graddau TGAU A*-D yn ystyried gwneud cais am y cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2.  

Yn ogystal bydd angen i ymgeiswyr fynychu cyfweliad llwyddiannus. Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb hefyd yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.

Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain sy’n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.