Skip page header and navigation

Dilyniant mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Cwrs Coleg)

Gall gyrfa mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu fod yn werth chweil ac yn amrywiol, gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i unigolion sydd â diddordeb yn y diwydiant adeiladu a pheirianneg.

Datblygwyd y Dilyniant mewn Adeiladu fel cymhwyster ôl-16 ar gyfer unigolion sy’n gweithio neu sy’n bwriadu gweithio yn y sector Adeiladu. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu lefel dau neu dri eraill sy’n berthnasol i grefft adeiladu ddewisol.

Cynlluniwyd y cymhwyster yn bennaf er mwyn i ddysgwyr ei ddilyn ar raglen ddysgu lawn amser un flwyddyn o hyd. Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sydd wedi cyflawni’r Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (lefel 2) ond sydd heb brentisiaeth hyd yma.

Mae’r rhaglen yn caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyn gyrfa yn y diwydiant adeiladu.

Dewisiadau opsiwn

Dilyniant mewn Adeiladu Lefel 2 - Gosod Brics
Dilyniant mewn Adeiladu Lefel 2  – Gwaith Saer Ar Safle
Dilyniant mewn Adeiladu Lefel 2  – Peintio ac Addurno 
Dilyniant mewn Adeiladu Lefel 2  – Plastro Solet 
Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 - Systemau electrodechnegol a gosod cyfarpar
Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 - Gwaith Plymwr a Gwresogi.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
12 Mis

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr gan eu galluogi i symud ymlaen i’r diwydiant yn eu crefft ddewisol.  

Datblygwyd y rhaglen yn benodol i’w chyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi modern.  Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.

Fel rhan o’r rhaglen bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau datblygiad sgiliau llythrennedd a rhifedd hanfodol neu sylfaenol. Darperir cyfleoedd yn ogystal i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg ac i ddatblygu’r iaith Gymraeg.

Bydd dysgwyr yn dewis crefft i arbenigo ynddi yn y sector adeiladu ac yn datblygu eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ar gyfer y grefft honno, fel y ceir yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Bydd dysgwyr yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser ar uned eu crefft ddewisol unigol.

Unedau crefft:

  • Gosod Brics
  • Gwaith Saer ar Safle
  • Peintio ac addurno
  • Plastro Solet
  • Systemau electrodechnegol a gosod cyfarpar
  • Gwaith Plymwr a gwresogi

Hefyd bydd dysgwyr yn cwblhau tair uned ‘graidd’ sy’n cwmpasu:

  • Cyflogaeth
  • Sgiliau cyflogadwyedd
  • Arferion adeiladu cyffredinol.

Nod y cymhwyster yw datblygu sgiliau dysgwyr ymhellach cyn iddynt gychwyn prentisiaeth.

Ar gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu’r wybodaeth i ddysgwyr symud ymlaen i’r canlynol:

  • Prentisiaeth lefel 3 mewn Crefftau Adeiladu - City & Guilds
  • Prentisiaeth lefel 3 Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Gwaith Plymwr neu Electrodechnegol) - EAL
  • Cyflogaeth mewn maes yn gysylltiedig ag adeiladu

Mae’r cymhwyster yn darparu gwybodaeth ddigonol i ddysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth o fewn y sector yn eu crefft ddewisol neu i gymwysterau llawn amser eraill yn gysylltiedig ag adeiladu a fydd yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o grefftau o fewn y diwydiant adeiladu.

I gyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau:

  • un prawf aml-ddewis, wedi’i osod a’i farcio’n allanol.
  • un prosiect ymarferol wedi’i osod yn allanol, wedi’i farcio’n fewnol yn cwmpasu maes eu crefft ddewisol
  • un drafodaeth, wedi’i gosod yn allanol, wedi’i marcio’n fewnol

Mae’n addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi cyflawni’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu ond sydd heb gyflogwr hyd yma er mwyn mynd ymlaen i brentisiaeth.

Bydd gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) eu hunain sy’n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.