
Gosod Trydanol - Diploma Lefel 1
- Campws Rhydaman
Mae adeiladu a chrefftau adeiladu yn sgiliau deniadol y mae galw mawr amdanynt o fewn diwydiant enfawr sy’n tyfu’n gyflym. Mae’r rhaglen lefel un hon yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau trydanol cyffredinol gan ganiatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfaol fel trydanwr.
Does dim angen i chi fod ag unrhyw brofiad blaenorol o waith gosod trydanol neu i fod yn gweithio yn y diwydiant oherwydd cyflwynir y cwrs mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol i ganiatáu i chi archwilio’r hyn gallwch chi wneud fel unigolyn. Er na fydd y cymhwyster hwn yn caniatáu i chi fod yn drydanwr, fe fydd yn eich helpu i adeiladu’r sgiliau a’r wybodaeth i symud ymlaen i astudio pellach.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Byddwch yn cael y cyfle i ddysgu theori gwaith gosod trydanol wedi’i leoli yn y dosbarth a chael cynnig ar sgiliau gosod ymarferol yn y gweithdai trydanol, dan arweiniad tiwtoriaid trydanol profiadol. Cewch eich asesu mewn amgylchedd diogel ar y gwaith sylfaenol o osod ceblau a systemau gwifro er mwyn eich paratoi ar gyfer astudio pellach mewn gosodiadau trydanol.
Fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau sgiliau hanfodol neu sylfaenol i’w caniatáu i symud ymlaen yn y pen draw i brentisiaeth yn y diwydiannau adeiladu a gwasanaethau adeiladu.
- Iechyd a Diogelwch mewn Gosod Trydanol
- Deall mesurau diogelu amgylcheddol sylfaenol o fewn peirianneg gwasanaethau adeiladu
- Dulliau, Gweithdrefnau a Gofynion Gwaith Gosod
- Sgiliau Crefft Gosod Trydanol
- Gwyddor, Egwyddorion a Thechnoleg Drydanol
Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn cynnwys prentisiaethau neu gymwysterau llawn amser eraill sy’n gysylltiedig ag adeiladu a fydd yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o grefftau yn y diwydiant adeiladu.
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy’n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.
TGAU graddau A* i G mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg neu Adeiladu’r Amgylchedd Adeiledig L1/2 CBAC neu fyfyriwr hŷn. Byddem yn argymell bod myfyrwyr â graddau TGAU A*-D yn ystyried gwneud cais am y cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2.
Yn ogystal bydd angen i ymgeiswyr fynychu cyfweliad llwyddiannus. Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb hefyd yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.
Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain sy’n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.