Newyddion
Recent press releases
Abbigail Marshall decided to study Coleg Sir Gâr’s online animal science course as she wanted to expand her knowledge but wasn’t able to attend university and due to her very busy life schedule.

Mae Emily Cartwright yn wyneb cyfarwydd yn llyfrgelloedd Coleg Sir Gâr, oherwydd mae’n cefnogi dysgwyr fel rhan o rôl cynorthwyydd llyfrgell ar gampws y coleg yn y Graig.

Mae myfyrwyr artistig yng Ngholeg Sir Gâr wedi bod yn cydweithio dros achos rhyngwladol i helpu’r ymgyrch elusennol, Dress a Girl Around the World.

Mae myfyriwr cyfryngau creadigol yng Ngholeg Sir Gâr wedi dychwelyd o Japan lle llwyddodd i gael lle yn Academi Hiroshima-ICAN ar Arfau Niwclear a Diogelwch Byd-eang 2024.
Enillodd myfyrwraig arlwyo a lletygarwch Coleg Ceredigion Caitlin Meredith wobr efydd am gelfyddydau coginiol yn rowndiau terfynol cenedlaethol cystadleuaeth WorldSkills y DU ym Manceinion.

Myfyrwraig ar-lein yw Rebecca Muncaster sydd ar hyn o bryd yn astudio Tystysgrif Addysg Uwch Gwyddor Anifeiliaid lefel pedwar ar-lein Coleg Sir Gâr.
Mae hi'n byw yn yr Alban ond oherwydd bod y cwrs ar-lein, gall symud ei hamserlen astudio yn hwylus i gyd-fynd â'i hymrwymiadau presennol a gyda chyfarfodydd tiwtor un-i-un, mae hi ar y trywydd iawn gyda'i gwaith.

Yn ddiweddar, croesawodd Coleg Ceredigion Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar ei gampws yn Aberystwyth.

Mae myfyrwyr gwneud dodrefn Coleg Ceredigion yn cymryd rhan mewn briff cystadleuaeth byw i ddylunio tlysau ar gyfer Gŵyl Cerdd Dant 2025.
Gwella lles trwy fyd natur yw un o'r agweddau allweddol gwnaeth tîm o ddarlithwyr yng Ngholeg Sir Gâr fynd i’r afael â hi cyn bod myfyrwyr yn mynd ar daith i Slofenia.

Mae myfyriwr o Goleg Ceredigion wedi cael y cyfle oes o sicrhau profiad gwaith yn Llysgenhadaeth yr Eidal yn Llundain gyda’r pen-cogydd o fri, Danilo Cortellini.

Mae Emma Williams, darlithydd Gwallt a Harddwch yng Ngholeg Sir Gâr, wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer Cancer Hair Care UK, elusen sy’n darparu gwasanaethau rhad ac am ddim i unigolion ar draws Cymru a Lloegr sy’n dioddef cemotherapi. Hyd yma, mae Emma wedi codi swm nodedig o £490, gan gyfrannu at y gefnogaeth hollbwysig mae’r elusen yn cynnig i gleifion canser.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Sir Gâr gynhadledd ysbrydoledig i Genhadon Ieuenctid, wedi’i threfnu gan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, gan groesawu myfyrwyr o ysgolion lleol i ennill sgiliau gwerthfawr, meithrin rhwydweithiau ac archwilio eu potensial fel ysgogwyr newid yn y dyfodol.

Mae myfyrwraig arlwyo Coleg Ceredigion, Ella Clements, wedi ennill swydd eithriadol fel stiwardes fewnol ar fwrdd gwch hwyliau moethus ym Monaco, Ffrainc. Mae ei rôl yn cynnwys darparu gwasanaeth ciniawa cain i berchennog o fri a'i westeion tra'n cynnal a chadw tu fewn yr gwch hwyliau i safon pum seren.

Mae Coleg Sir Gar a Cheredigion wedi cyhoeddi chwech Llysgennad Addysg Bellach newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25.

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi dod â medalau adref o rownd derfynol genedlaethol WorldSkills y DU.
