Medal efydd y DU yn helpu hyder Caitlin yn ei sgiliau

Enillodd myfyrwraig arlwyo a lletygarwch Coleg Ceredigion Caitlin Meredith wobr efydd am gelfyddydau coginiol yn rowndiau terfynol cenedlaethol cystadleuaeth WorldSkills y DU ym Manceinion.
Mae’r gystadleuaeth hon yn brawf o ansawdd sgiliau myfyrwyr a phrentisiaid ar draws y DU gyfan mewn ystod o sectorau diwydiant.
Bu Caitlin, o bentref bach Moriah, yn cystadlu gydag wyth o fyfyrwyr eraill mewn dau ddiwrnod wyth awr o dasgau cystadleuaeth.
Fel rhan o dasg y gystadleuaeth, rhoddwyd bwydlen i’r ferch 17 oed greu a oedd yn cynnwys stroganoff porc, draenogyn môr wedi’i ffrio mewn padell, ratatouille, cawl pysgod cregyn, cranc wedi’i drin, souffle siocled a dewis o seigiau Ffrengig clasurol.
Doedd dim ryseitiau gan y cystadleuwyr a doedden nhw ddim yn gwybod beth fyddai’n ofynnol ganddynt tan iddynt gyrraedd y gystadleuaeth, ond rhoddwyd oergell yn llawn o gynhwysion iddynt i gwblhau’r tasgau.
Meddai Caitlin Meredith: “Ninnau oedd rhai o’r cystadleuwyr ieuengaf yno, felly er ei fod yn ddirdynnol, roedden ni hefyd yn teimlo bod llai o bwysau arnom oherwydd roedd amser gennym i ddatblygu ein sgiliau.
“Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill; pan ymddangosodd fy enw, braidd yr oeddwn yn gallu credu ond rwyf mor hapus i ddod nôl â gwobr efydd gan ei bod yn gystadleuaeth mor anodd, ond rwy’n falch fy mod wedi’i gwneud hi.
“Gwnes i fwynhau’r noson wobrwyo’n fawr iawn lle roedd pawb wedi gwisg i fyny ac roeddwn yn gallu siarad â llawer o bobl yn y diwydiant.
“Rwy’n teimlo ychydig yn fwy hunan-hyderus a sicr yn fy ngalluoedd fy hun ac rwy’n teimlo fy mod wedi tyfu ynof i fy hun ac yn gallu gwneud mwy o waith cystadlaethau.”
Bellach mae gan Caitlin y cyfle i gael ei dewis gan WorldSkills y DU i hyfforddi er mwyn cystadlu gyda thri enillydd gorau eleni a llynedd y categori celfyddydau coginiol.