Myfyrwyr yn dod â medalau adref o rownd derfynol genedlaethol y DU
Mae rownd derfynol genedlaethol WorldSkills y DU yn benllanw rowndiau rhagbrofol rhanbarthol dwys sydd wedi digwydd ledled y wlad mewn amrywiaeth o gategorïau, o wasanaethau bwyty i waith asiedydd.
Yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, enillodd Evanna Lewis fedal arian y DU yn y categori Sgiliau Sylfaenol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol, enillodd Elara Jones efydd yn y categori therapi harddwch, enillodd Caitlin Meredith efydd yn y celfyddydau coginio ac enillodd Shanon Brown efydd mewn gwasanaethau bwyty
Mae dros 400 o brentisiaid a myfyrwyr wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth a gynhaliwyd ym Manceinion ochr yn ochr â Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild ar gyfer crefftau adeiladu a gynhaliwyd yn Milton Keynes.
Cafodd enillwyr medalau a’r rheiny a gyrhaeddod rowndiau terfynol WorldSkills y DU a SkillBuild eu hanrhydeddu yn Neuadd fawreddog Bridgewater ym Manceinion ddydd Gwener, Tachwedd 22.
Cafodd dros 40 o feysydd sgiliau eu cynrychioli eleni, yn amrywio o gyfrifeg, celf gemau digidol, cynnal a chadw awyrennau a seiberddiogelwch.
Mae cystadleuwyr o Gymru wedi’u cefnogi gan y prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, sef tîm sy’n ymroddedig i annog cystadleuwyr o Gymru i gymryd rhan yng Nghystadlaethau Sgiliau Cymru a arweiniodd at y rownd derfynol genedlaethol hon.
Bydd rhai myfyrwyr yn gymwys i symud ymlaen ymhellach o fewn WorldSkills y DU ac mae llawer o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi symud ymlaen i gymhwyso i hyfforddi ar gyfer carfanau’r DU sy’n cystadlu’n rhyngwladol. O’r profiad hwn, cynigir cyfleoedd iddynt gael mewnwelediadau a phrofiadau gwerthfawr yn y diwydiant ar lefel arbennig o uchel.
Dywedodd Andrew Cornish, Prif Swyddog Gweithredol a phennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Rwyf wrth fy modd bod ein dysgwyr dawnus wedi cynrychioli eu coleg a Thîm Cymru yn rowndiau terfynol cenedlaethol y gystadleuaeth sgiliau galwedigaethol ym Manceinion a Milton Keynes.
“Maen nhw wedi gweithio mor galed i baratoi ar gyfer y cystadlaethau hyn, sy’n gofyn am gyrraedd y safonau ymarferol, galwedigaethol uchaf.
“P’un a ydynt yn ennill medalau neu’n cael eu dewis i gystadlu, byddant mewn gwell safle i symud i gyflogaeth gyda’r wybodaeth a’r sgiliau y maen nhw wedi’u hennill o ganlyniad i’r broses heriol hon.
“Mae cystadlaethau sgiliau yn hanfodol ar gyfer datblygiad personol ac yn arddangos y gorau oll o addysg a hyfforddiant galwedigaethol y mae Cymru yn eu cynhyrchu mewn ystod o ddisgyblaethau galwedigaethol.”






