Skip page header and navigation

Myfyrwraig ar-lein yw Rebecca Muncaster sydd ar hyn o bryd yn astudio Tystysgrif Addysg Uwch Gwyddor Anifeiliaid lefel pedwar ar-lein Coleg Sir Gâr.

Mae hi’n byw yn yr Alban ond oherwydd bod y cwrs ar-lein, gall symud ei hamserlen astudio yn hwylus i gyd-fynd â’i hymrwymiadau presennol a gyda chyfarfodydd tiwtor un-i-un, mae hi ar y trywydd iawn gyda’i gwaith.

Des i ar draws y cwrs trwy chwilio’r rhyngrwyd, tra’n edrych yn benodol am raglen ar-lein gynhwysfawr a gynigir gan sefydliad ag enw da. 

Ymhlith yr opsiynau a wnes i eu darganfod, roedd Coleg Sir Gâr yn sefyll allan fel y dewis gorau, gan alinio’n berffaith â’m cyrchnodau a’m disgwyliadau.

Fy mhrif ysgogiad ar gyfer dilyn y cwrs hwn oedd fy niddordeb mewn adsefydlu bywyd gwyllt.

 Roeddwn i eisiau ategu’r profiad ymarferol rwyf eisoes wedi’i ennill gydag astudio ffurfiol i ddatblygu dealltwriaeth fwy cyflawn o’r maes. 

Mae’r profiad o ddysgu ar-lein a gyda fy nhiwtoriaid wedi bod yn hynod gadarnhaol hyd yn hyn. 

Mae’r hyblygrwydd ar-lein wedi fy ngalluogi i gydbwyso gwaith ac astudio’n well, ac mae’r modiwlau sydd wedi’u strwythuro’n dda yn fanwl ac wedi eu trefnu ar gyflymdra ystyriol hefyd. 

Mae cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda fy nhiwtor wedi bod yn amhrisiadwy o ran darparu arweiniad adeiladol a chefnogol, gan wella fy nysgu yn gyffredinol. 

Yr hyn rwy’n ei ddysgu ac yn ei fwynhau fwyaf yw darganfod sut i gymhwyso fy astudiaethau’n uniongyrchol i adsefydlu bywyd gwyllt.  Mae’r modiwlau rwyf wedi’u cymryd hyd yn hyn yn llawn gwybodaeth fanwl.  Mae’r cyfuniad hwn o gymhwysiad ymarferol a chynnwys deniadol wedi gwneud y profiad dysgu yn bleserus ac yn berthnasol. 

Yr hyn sydd wedi fy synnu ar yr ochr orau ynglŷn â’r cwrs yw bod cwisiau bob hyn a hyn wedi’u cynnwys, sy’n atgyfnerthu’r dysgu yn briodol.  Yn ogystal, mae’r adnoddau llyfrgell cyfoethog a hawdd eu cyrraedd wedi bod yn uchafbwynt annisgwyl. 

Mae’r cwrs hwn wedi rhoi sylfaen gref i mi allu dilyn amrywiaeth o gyfleoedd yn y dyfodol.

Mae’r cwrs gwyddor anifeiliaid ar-lein hwn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ehangu eu gwybodaeth am egwyddorion gwyddonol etholeg, ymddygiad a ffisioleg anifeiliaid, a chymhwyso’r wybodaeth hon i les anifeiliaid, hwsmonaeth a chadwraeth.

Caiff y cwrs cyfan ei astudio 100% ar-lein a gellir ei astudio’n rhan-amser neu’n llawn amser ac mae croeso i fyfyrwyr yn seremoni raddio’r coleg yn Sir Gaerfyrddin ar ôl ei gwblhau.

Mae’r cwrs ar agor ar hyn o bryd ar gyfer derbyn myfyrwyr ym mis Ionawr, Mai a Medi 2025.

Rhannwch yr eitem newyddion hon