Oliver yn hyfforddi gyda Phen-cogydd o fri yn Llysgenhadaeth yr Eidal yn Llundain
Mae myfyriwr o Goleg Ceredigion wedi cael y cyfle oes o sicrhau profiad gwaith yn Llysgenhadaeth yr Eidal yn Llundain gyda’r pen-cogydd o fri, Danilo Cortellini.
Fe wnaeth Oliver Lacey, myfyriwr arlwyo a lletygarwch ar gampws Aberystwyth y coleg, dreulio tri diwrnod yn y llysgenhadaeth fel rhan o wobr cystadleuaeth Pen-cogydd Risotto Ifanc y Flwyddyn Riso Gallo y DU ac Iwerddon, lle enillodd yr ail safle yn y DU.
Roedd y pen-cogydd o Abruzzo yn ysbrydoliaeth i Oliver a wnaeth ei ddisgrifio fel ‘gŵr hyfryd didwyll, deallus, rhadlon iawn sy’n angerddol fydd yn eich gwthio i fod y gorau gallwch fod’.
Roedd cael cyfle i baratoi gwasanaeth ar gyfer Llysgennad yr Eidal a gweithio gyda phen-cogyddion sydd ar frig eu maes yn gyfle oes. “Roedd y ffordd cafodd y bwyd ei baratoi yn wych ac roedd bod yn rhan o hynny yn anhygoel,” meddai Oliver. “Roedd gweithio ochr yn ochr â’r pen-cogyddion Jiri a Danilo mor wirioneddol Eidalaidd a allai fod, roedd yn syfrdanol, o baratoi llysiau i wneud pasta a helpu gyda risotto. Cafodd y profiad cyfan effaith anhygoel ar fy ngyrfa goginiol a’r ffordd rwy’n gweld pethau.”
Mae’r profiad wedi gwir danio ysfa Oliver am goginio dilys ond syml a’r boddhad a wnaeth deimlo ynghylch yr hyn gafodd ei weini yng nghinio gala’r llysgenhadaeth.
Gyda phedwar pen-cogydd proffesiynol wrth y llyw, dywedodd Oliver ei fod yn amgylchedd cyflym iawn gyda sgiliau cyfathrebu da’n gwneud y gegin yn effeithiol, ond roedd y llysgenhadaeth ei hun yn lle hamddenol i weithio. “Roedd paratoi bwyd ychydig bach yn ddirdynnol ond roedd cefnogaeth cyd-gogyddion yn ei wneud yn llawer mwy gwerth chweil,” meddai Oliver. “Gwnes i wir fwynhau fy hun yn gweithio yn yr amgylchedd hyfryd hwnnw.”
Tra yn y coleg, mae Oliver wedi bod yn llwyddiannus hefyd yn nigwyddiadau Cystadlaethau Sgiliau Cymru, gan ennill aur ar gyfer y categori celfyddydau coginiol.
Meddai James Ward, tiwtor Oliver: “Rydw innau a phob un ohonom yn adran arlwyo Aberystwyth yn falch dros ben o Oliver a dymunwn y gorau iddo ym mhob peth mae’n ei wneud.”
Mae Oliver hefyd wedi trefnu ei dymor sgïo ei hun ym mynyddoedd yr Alpau Ffrengig y flwyddyn nesaf lle bydd yn rheoli chalet yn darparu gwasanaethau lletygarwch ac arlwyo, yn cynnwys bwydlen tri-chwrs.
Mae e nawr yn gobeithio symud ymlaen yn ei daith gystadleuol a hefyd cystadlu ar gyfer Pen-cogydd Cenedlaethol Ifanc y Flwyddyn.


