Emily yn ymroi i’w siwrnai Gymraeg fel rhan o’i rôl gefnogi yn y llyfrgell
Mae Emily Cartwright yn wyneb cyfarwydd yn llyfrgelloedd Coleg Sir Gâr, oherwydd mae’n cefnogi dysgwyr fel rhan o rôl cynorthwyydd llyfrgell ar gampws y coleg yn y Graig.
Mae Emily yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd, ac yn dweud mai un o’i hoff brofiadau gyda’r iaith oedd pan ofynodd partner Emily yn Gymraeg am gael priodi – ac er bod Emily wedi cael trafferth dod o hyd i’r ateb Cymraeg cywir, mae’n bleser gennym ddatgelu mai’r ateb oedd ‘gwnaf’.
Roedd Emily wedi rhoi cynnig ar apiau dysgu poblogaidd fel Duolingo a Rosetta Stone, ac er iddyn nhw wella sgiliau Emily, nid oedd Cymraeg Emily yn agos at ble roedd Emily eisiau iddi fod. Pan ddaeth y cyfle i ddysgu Cymraeg fel rhan o’r rôl waith, neidiodd at y cyfle, a chafodd ei ariannu’n llawn.
Mae Emily yn gwella Cymraeg llafar gyda Catrin y tiwtor ar gwrs Cymraeg Gwaith ar hyn o bryd, ac erbyn hyn mae hanner ffordd drwy’r lefel Sylfaen, ar ôl cwblhau’r cwrs Mynediad gyda chanlyniad arholiad gwych o 97%.
Hoff ran Emily o’r unedau Cymraeg Gwaith yw Robin Radio, sioe radio ffuglen wedi’i chynllunio ar gyfer ymarfer gwrando. Mae hyn oherwydd yr hiwmor diwylliannol a’r cynhesrwydd sydd i’w gael o bob pennod, a dywedodd ‘maen nhw’n gwneud i mi wenu’. I Emily, fodd bynnag, nid yw dysgu Cymraeg yn ymwneud â gwaith cwrs yn unig. Mae’n ymdrochi mewn unrhyw ffordd y gall, ac yn darllen nofelau Amdani ar gyfer dysgwyr Cymraeg i’w helpu i ddysgu mwy o eirfa. “Rydym yn y broses o gaffael y gyfres Amdani gyfan ar gyfer llyfrgell y coleg ar ffurf e-lyfrau a phrint,” meddai Emily. “Rwy’n llawn cyffro!”
Yn wir, o ganlyniad i’w rhaglen ddysgu, llwyddodd Emily i gofrestru ar gyfer cwrs preswyl i ddysgwyr Cymraeg ifanc, a’r penllanw oedd dathliad yng Ngŵyl Canol Dre, gŵyl a drefnwyd gan Fenter Gorllewin Sir Gâr. Cynhelir y digwyddiad yn flynyddol yng Nghaerfyrddin, ac mae’n cynnwys perfformiadau byw o gerddoriaeth, chwaraeon, llenyddiaeth a chelf, ond yn anffodus aeth Emily yn sâl ac ni allai fynychu’r ŵyl a’r cwrs preswyl. “Roeddwn i’n edrych ymlaen at gwrdd â’r dysgwyr eraill, gan fod gwybod bod yna eraill ar gael a all eich helpu a’ch cefnogi ar eich taith yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i’ch hyder,” meddai Emily. “Rwy’n ffodus, yn y gwaith, i allu sgwrsio â fy nhîm yn Gymraeg a dweud wrthyn nhw i gyd am yr hyn rwy’n ei ddysgu. Sgwrsio â siaradwyr brodorol yw fy nghyfle gorau i ddysgu nodweddion lleferydd y byddwn efallai yn eu colli fel arall.”
Y llynedd, manteisiodd Emily ar y cyfle i fynd i sesiynau galw heibio sgwrsio Cymraeg anffurfiol y coleg gyda’r darlithydd Safon Uwch Cymraeg, Philippa Smith, lle dywedodd Emily eu bod wedi gallu profi cryfder eu sgiliau iaith mewn lleoliad cyfeillgar, hamddenol. Trwy wrando ar eraill yn sgwrsio, roedd yn gallu gwneud cysylltiadau meddyliol newydd rhwng geiriau ac ymadroddion, a oedd yn ei dro yn galluogi Emily i gyfrannu mwy bob wythnos.
Os ydych chi’n siaradwr Cymraeg neu’n ddysgwr a ddim yn gwybod p’un ai dechrau sgwrs ag Emily yn Gymraeg neu Saesneg, dyma beth ddywedodd: “Efallai ei fod yn swnio’n wirion ond rwy’n teimlo gwefr pob tro mae rhywun yn dechrau sgwrs gyda fi yn Gymraeg.
“Mae’n fy syfrdanu faint yn gyflymach y gallaf roi’r hyn y mae’r person hwnnw’n ei ddweud at ei gilydd nag y gallwn o’r blaen, ac er efallai nad wyf yn gwybod yn union pa ymateb i’w ddefnyddio, mae gallu eu deall nhw yn fuddugoliaeth enfawr i mi!”
Bu Emily’n byw yng Nghymru am ran fwyaf eu hoes, ac mae dysgu’r iaith yn bwysig i Emily, sy’n dweud bod profiad pawb o’u Cymreictod eu hunain yn bersonol ond yn unedig. Rhannodd bod gallu siarad yr iaith ar unrhyw lefel yn gadarnhaol ac yn galonogol.
Mae Emily Cartwright yn mynd ati o ddifrif i gyrraedd eu cyrchnodau iaith Gymraeg, ac ychwanegodd: “Rwy’n edrych ymlaen at barhau ar fy nhaith ddysgu drwy weddill y lefelau Dysgu Cymraeg yr holl ffordd drwodd i ruglder – ac efallai hyd yn oed ennill Dysgwyr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod ar hyd y ffordd!”