Skip page header and navigation
roedd dysgwyr yn sefyll mewn grŵp yn gwisgo wigiau lliwgar ar gyfer taith gerdded elusennol

Mae Emma Williams, darlithydd Gwallt a Harddwch yng Ngholeg Sir Gâr, wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer Cancer Hair Care UK, elusen sy’n darparu gwasanaethau rhad ac am ddim i unigolion ar draws Cymru a Lloegr sy’n dioddef cemotherapi. Hyd yma, mae Emma wedi codi swm nodedig o £490, gan gyfrannu at y gefnogaeth hollbwysig mae’r elusen yn cynnig i gleifion canser.

Mae elusen Cancer Hair Care UK, a sefydlwyd yn Lloegr yn wreiddiol, wedi ehangu ei gwasanaethau i Gymru yn ddiweddar. Mae’r elusen yn cynnig ystod eang o gefnogaeth yn rhad ac am ddim gan gynnwys banciau wigiau lle mae pobl yn rhoddi wigiau i gael eu dosbarthu am ddim i gleientiaid. 

Caiff y wigiau hyn eu ffitio a’u steilio yn ystod sesiynau ymgynghori, gan roi hyder a chysur i gleientiaid. Mae’r elusen hefyd yn cynnig cyngor ar therapi cap oer, basgedi gofal ar gyfer cleifion a hyfforddiant ar dorri wigiau, lliwio gwallt ac ymdopi ag amrywiol gamau colli gwallt ac aildyfiant.

Mae cysylltiad Emma â’r elusen yn hynod bersonol. Gwnaeth brwydr ei mam â chanser, ac o ganlyniad colli ei gwallt, ysgogi  Emma i chwilio am wasanaethau cefnogi, a arweiniodd iddi ddarganfod Cancer Hair Care UK. Ar ôl cwblhau cwrs ar-lein gyda’r elusen, daeth brwdfrydedd ac arbenigedd Emma i sylw sylfaenydd yr elusen, Jasmin, a aeth ati i siarad ag Emma’n bersonol a’i hyfforddi i weithio’n uniongyrchol â chleientiaid.

Cyn bo hir bydd Emma yn gwirfoddoli mewn tri ysbyty lleol, yn ffitio wigiau a chynnig gwasanaethau lliwio a thorri gwallt i gleifion sy’n cael triniaeth. 

I gynnwys myfyrwyr a chodi arian ychwanegol, trefnodd Emma “Daith Wigiau” ar hyd llwybr arfordirol Llanelli. Cymerodd chwe deg o ddysgwyr ran, gan wisgo wigiau lliwiau llachar i ddangos eu cefnogaeth. Gwnaeth pob myfyriwr rodd o £2, gyda’r daith gerdded yn diweddu mewn dathliad dros de, coffi a chacen.

Wrth edrych ymlaen, mae Emma yn bwriadu cynnwys ei gwaith elusennol yn ei haddysgu. Unwaith bod salon y coleg yn dechrau cynnal sesiynau ymgynghori wigiau, bydd hi’n hyfforddi ei myfyrwyr mewn ffitio a steilio wigiau. Bydd y sesiynau hyn yn darparu profiad ymarferol, gan ganiatáu i fyfyrwyr gymryd rhan mewn digwyddiadau pampro wrth ddysgu pwysigrwydd empathi a gofal cleientiaid. 

Mae Emma’n gweld hyn fel cyfle amhrisiadwy i fyfyrwyr feithrin sgiliau proffesiynol, ennill profiad a sefydlu perthnasoedd ystyrlon gyda chleientiaid. 

Trwy ei hymroddiad, mae Emma nid yn unig yn codi calon cleifion canser ond mae hi hefyd yn ysbrydoli ei myfyrwyr i ddefnyddio eu talentau at ddiben uwch, gan ymgorffori ysbryd tosturi a chymuned o fewn y diwydiant gwallt a harddwch.

Rhannwch yr eitem newyddion hon