Myfyriwr yn dychwelyd ac yn myfyrio ar ei ymweliad ag Academi Hiroshima-ICAN ar Arfau Niwclear
Mae myfyriwr cyfryngau creadigol yng Ngholeg Sir Gâr wedi dychwelyd o Japan lle llwyddodd i gael lle yn Academi Hiroshima-ICAN ar Arfau Niwclear a Diogelwch Byd-eang 2024.
Joseph Owen, 18, oedd y cyfranogwr ifancaf, a’r unig Gymro a gafodd ei ddewis o blith 32 o bobl ledled y byd.
Mae ei dad-cu wedi bod yn ddylanwad ym mywyd Joseph oherwydd roedd yn gyn-filwr o Brydain a gymerodd ran ym mhrofion niwclear Operation Dominic ym 1962.
Roedd gweithgareddau’r academi’n canolbwyntio ar ganlyniadau dyngarol arfau niwclear, risgiau niwclear presennol ac yn y dyfodol, effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol arfau niwclear a rolau’r Cenhedloedd Unedig a chymdeithas sifil.
Meddai Joseph Owen: “Cyrhaeddom faes awyr Hiroshima ar ôl newid yn Tokyo, ac ar y diwrnod cyntaf fe wnaethom ni i gyd gyflwyno ein hunain i gyfranogwyr o bob rhan o’r byd.
“Ar yr ail ddiwrnod, fe wnaethon ni gwrdd â Hibakusha, sy’n derm Japaneg ar gyfer goroeswyr bomiau atomig ac fe wnaethon nhw adrodd eu straeon dirdynnol wrthym am y diwrnod y gollyngwyd bom Hiroshima.
“Fe wnaethom hefyd ymweld â’r Parc Heddwch sy’n lle anhygoel i’w weld a chawsom gyfle i ymweld â’r Sefydliad Ymchwil i Effeithiau Ymbelydredd (RERF) a gweld y prosiectau yr oeddent yn ymgymryd â nhw. Mae’r sefydliad, gyda chydweithrediad goroeswyr bomiau atomig Hiroshima a Nagasaki, yn astudio effeithiau ymbelydredd bomiau A ar iechyd at ddibenion heddychlon.”
Gyda’r nos, bu’r grŵp yn trafod y cytundeb atal profion niwclear gyda Hiroshima Youth, sef y genhedlaeth nesaf sy’n eiriol dros ddiddymu arfau niwclear.
Yn ogystal, bu’r Maer a Llywodraethwr Hiroshima yn ymweld ag aelodau’r academi gan ddysgu am y gwaith y maen nhw’n ei wneud i sicrhau na fydd unrhyw ddinas arall byth yn profi’r hyn a wnaeth Hiroshima a Nagasaki.
Ychwanegodd Joseph Owen: “Nid yw Hiroshima fel unrhyw le arall ar y ddaear ac mae wedi trawsnewid cymaint ers y bomio dinistriol.
“Mae Hiroshima wedi’i adfywio’n llwyr, ei ailadeiladu, ond bob amser gydag atgofion am y diwrnod tyngedfennol hwnnw.
“Roedd yn brofiad anhygoel ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i fynychu taith hir, ond un a fwynheais yn fawr.”
