Skip page header and navigation
Abbi with a beach behind her wearing a green hat

Penderfynodd Abbigail Marshall astudio cwrs gwyddor anifeiliaid ar-lein Coleg Sir Gâr gan ei bod eisiau ehangu ei gwybodaeth ond doedd hi ddim yn gallu mynychu’r brifysgol oherwydd amserlen ei bywyd prysur iawn. 

Mae’r cwrs ar-lein hwn yn cynnig tystysgrif addysg uwch lefel pedwar, sy’n cyfateb i gwblhau blwyddyn gyntaf cwrs gradd. 

Mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ehangu eu gwybodaeth am egwyddorion gwyddonol etholeg, ymddygiad a ffisioleg anifeiliaid, a chymhwyso’r wybodaeth hon i les anifeiliaid, hwsmonaeth a chadwraeth.

Meddai Abbigail Marshall: “Roedd y cwrs hwn yn gyfle rwyf mor falch fy mod wedi’i gymryd!   Rhoddodd gipolwg i mi ar rai o’r effeithiau pwysicaf y mae newid hinsawdd yn eu cael ar natur a rhai o’r heriau mwyaf y mae ein planed a’n hecosystemau yn eu hwynebu. 

“Fe wnaeth Jan, fy nhiwtor, gyflwyno’r pynciau yn arbennig o dda a gyda brwdfrydedd ac mae gallu dewis eich pynciau a’ch rhywogaethau yn ddefnyddiol iawn. 

“Mae Jan yn diwtor hynod wybodus sy’n mwynhau addysgu a helpodd fi i fwynhau dysgu.

“Gall dysgu ar-lein fod yn wych ar gyfer amserlen brysur ac fe wnaeth astudio’n rhan-amser hefyd fy helpu i reoli fy amser.  Os oedd gennyf unrhyw broblemau personol roedd fy nhiwtor yno bob amser i helpu datrys y broblem a bwcio tiwtorial ar-lein lle roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus.   

“Yn ogystal, mae gen i ADHD, gorbryder a PTSD, ac roedd dysgu ar-lein o gymorth mawr ac roedd cael tiwtorialau yn fy helpu i oresgyn rhai o fy mhryderon.”   

Dywed Abbigail ei bod yn bwriadu parhau i astudio gartref ac yn yr awyr agored ym myd natur gyda’r wybodaeth broffesiynol mae hi wedi’i hennill yn sgil ei phrofiad ar y cwrs, y mae hi’n ei ddisgrifio fel un “anhygoel”.   Mae hi’n ansicr ynghylch y dyfodol o hyd ond mae’n gwybod ei bod am wneud argraff wrth ddiogelu’r amgylchedd ac roedd y cwrs hwn yn fan cychwyn i hynny.

Os yw stori Abbigail wedi eich ysbrydoli chi, mae Coleg Sir Gâr ar hyn o bryd yn croesawu ceisiadau ar gyfer derbyn myfyrwyr i’r cwrs i ddechrau ym mis Ionawr, mis Mai a mis Medi 2025.

Rhannwch yr eitem newyddion hon