Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr artistig yng Ngholeg Sir Gâr wedi bod yn cydweithio dros achos rhyngwladol i helpu’r ymgyrch elusennol, Dress a Girl Around the World.

Mae’r grŵp tecstilau Safon Uwch ar gampws y coleg yn Llanelli wedi bod yn teithio i Gaerfyrddin i gymryd rhan mewn gweithdai gyda myfyrwyr gradd ffasiwn a thecstilau a staff yn Ysgol Gelf Caerfyrddin y coleg ar gampws Ffynnon Job.

Daeth Ysgol Gelf Caerfyrddin o hyd i’r elusen Dress a Girl Around the World ac roedden nhw eisiau cymryd rhan, felly fe wnaethon nhw drefnu gweithdai gyda myfyrwyr tecstiliau Safon Uwch a llunio dillad oedd wedyn yn cael eu hanfon at fenywod yn Uganda a Wcráin. 

Mae’r ymgyrch Dress a Girl Around the World yn rhan o Hope 4 Women International, a gafodd ei greu at ddibenion elusennol ac addysgol i rymuso menywod yn Uganda a gwledydd eraill sy’n dioddef o dlodi ac afiechyd. 

Dywedodd Angharad Griffiths, cyfarwyddwr rhaglen gradd BA anrhydedd mewn dylunio ffasiwn Ysgol Gelf Caerfyrddin:  “Roedd hyn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr gymryd rhan, cydweithio â’n myfyrwyr Safon Uwch, ac iddynt gael profiad gwerthfawr o weithio yn ein hadran ffasiwn ni. 

Myfyriwr yn defnyddio peiriant i adeiladu dilledyn
Roedd myfyriwr yn gwisgo dilledyn ar ardal yn cael ei ddefnyddio i dynnu lluniau
Roedd myfyrwyr yn sefyll wrth ymyl rheilen ddillad ar ardal a ddefnyddir i dynnu lluniau
Myfyriwr yn gwnio gyda pheiriant

“Ar ôl cysylltu â’r sefydliad i fynegi ein diddordeb mewn cymryd rhan, fe wnaethom archwilio’r patrymau gwisg sydd ar gael ar eu gwefan a gyda chefnogaeth Laura, ein technegydd ffasiwn, fe wnaethom argraffu’r patrymau ac addasu un i’w ddefnyddio yn ein gweithdy.

“Fel adran ffasiwn, rydym yn cydnabod heriau amgylcheddol a chymdeithasol y diwydiant ac mae partneru â’r sefydliad hwn wedi bod yn ffordd ystyrlon o gyfrannu’n gadarnhaol a gwneud gwahaniaeth dylanwadol trwy ffasiwn.”

Mae Sioned Davies, myfyrwraig tecstiliau Safon Uwch a gymerodd ran yn y gweithdy, yn dweud ei fod wedi ei helpu hi hefyd gyda’i dyheadau i astudio dylunio ffasiwn yn y brifysgol. 

Dywedodd Sioned Davies:  “Mae’r gweithdy Dress a Girl Around the World wedi dysgu llawer o bethau i mi yn yr amser yr wyf wedi’i fynychu.

“Mae wedi dysgu sylfeini dylunio ffasiwn i mi, fel gweithio gyda pheiriannau gwahanol, creu patrymau a sut i wnïo ffrog at ei gilydd. 

“Fel rhywun sy’n dyheu am ddilyn dylunio ffasiwn yn y brifysgol, mae’r gweithdy hwn wedi fy helpu i ddeall hanfodion yr hyn y byddwn yn ei wneud yn y cwrs hwn, mae hefyd wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau angenrheidiol ar gyfer y cwrs fel defnyddio peiriant trosglymu a llinynnu elastigau i mewn i ddilledyn. 

“Ar y cyfan, mae gweithio gyda’r elusen Dress a Girl Around the World a’r adran dylunio ffasiwn yn Ysgol Gelf Caerfyrddin wedi bod yn ysbrydoliaeth ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw a phe bawn i byth yn cael y cyfle i weithio gyda nhw i gyd eto, ni fyddwn i’n oedi.”

Ychwanegodd Angharad Griffiths, cyfarwyddwr rhaglen gradd BA anrhydedd mewn dylunio ffasiwn Ysgol Gelf Caerfyrddin:  “Roedd sylfaenydd yr elusen wrth ei bodd gyda’r ffrogiau a gofynnodd i ni wneud mwy – y tro hwn gan ddefnyddio ffabrigau mwy trwchus ar gyfer merched mewn angen yn Wcráin ac fe wnaeth y myfyrwyr tecstilau Safon Uwch ein helpu ni i lunio’r ffrogiau hyn.

“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Lee Mills Fabrics yn Abertawe am eu rhodd hael o ffabrig. Bydd y ffrogiau ar eu ffordd i Wcráin cyn bo hir.  Diolch enfawr i bawb a gyfrannodd at y prosiect ystyrlon hwn.”

Tiwtor yn helpu myfyriwr gyda dilledyn

Rhannwch yr eitem newyddion hon