Myfyrwyr Gwneud Dodrefn yn cystadlu mewn briff byw ar gyfer gŵyl gerdd
Mae myfyrwyr gwneud dodrefn Coleg Ceredigion yn cymryd rhan mewn briff cystadleuaeth byw i ddylunio tlysau ar gyfer Gŵyl Cerdd Dant 2025.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i’r adrannau dylunio a thechnoleg yng Ngholeg Ceredigion, Ysgol Penweddig ac Ysgol Penglais.
Bydd cystadleuwyr yn cyfeirio at yr ardal leol ac i’w thraddodiad cerddorol yn ogystal â chadw pob uned i gost benodol.
Bydd angen i’r sefydliad llwyddiannus greu 55 o dlysau a fydd yn cael eu cyflwyno ar lwyfan yr ŵyl ym mis Hydref y flwyddyn nesaf.
Meddai Deborah Elsaesser, darlithydd mewn dylunio a gwneud dodrefn: “Mae myfyrwyr wedi bod yn edrych ar yr ardal leol am ysbrydoliaeth, o dirnodau i dirweddau.
“Maen nhw wedi bod yn edrych ar natur, yn arbennig drudwyod yn murmur, diwylliant cerddorol, llên gwerin Cymru megis fforest betraidd Borth a chwedl dinas goll, Cantre’r Gwaelod.
“Mae gan Geredigion gyfoeth o ddeunyddiau felly mae dysgwyr yn archwilio coed ynn lleol, sydd yn anffodus yn newid ein tirwedd oherwydd clefyd (Chalara) coed ynn ac eboneiddio ac ymddiffeithio coed Deri i’w duo yn ogystal â llechi a chopr.”