Skip page header and navigation
learners sat on the ground in a sports hall completing a mind map during a workshop

Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Sir Gâr gynhadledd ysbrydoledig i Genhadon Ieuenctid, wedi’i threfnu gan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, gan groesawu myfyrwyr o ysgolion lleol i ennill sgiliau gwerthfawr, meithrin rhwydweithiau ac archwilio eu potensial fel ysgogwyr newid yn y dyfodol.  

Nod y digwyddiad oedd ysbrydoli mynychwyr i ddefnyddio chwaraeon fel llwybr ar gyfer twf personol a datblygu sgiliau. Cefnogir hyn gan weledigaeth yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid o ysbrydoli unigolion ar draws addysg a chymunedau i gysylltu a chefnogi cymdeithas i fod yn iach ac yn actif.

Gyda’r thema “Dysgu Trwy Arwain”, canolbwyntiodd y gynhadledd ar bedwar prif faes:  Ysbrydoli, Dylanwadu, Arwain a Mentora. 

Cymerodd y cyfranogwyr ran mewn sesiynau deinamig wedi’u teilwra i bob thema, gan feithrin cyfleoedd i ddatblygu cyfathrebu, gwaith tîm a gwneud penderfyniadau. Roedd y gynhadledd yn grymuso myfyrwyr i weld eu hunain fel “ysgogwyr newid y dyfodol,” gan roi’r offer iddynt gael effaith yn eu cymunedau trwy chwaraeon.

Roedd cymysgedd o weithdai ymarferol a theori yn digwydd trwy gydol y dydd - gan gynnwys sesiwn arbennig dan arweiniad Tom Hatfield, cyn-nofiwr proffesiynol a gystadlodd yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008.  Ac yntau bellach yn fentor athletwyr i’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, ymunodd Tom â’r gynhadledd i arwain y gweithdy ymarferol. 

Nid oedd Tom ar ei ben ei hun wrth arwain y gweithdai, cymerodd bedwar o ddysgwyr Coleg Sir Gâr rolau llysgenhadol yn ystod y gynhadledd, gan gefnogi cyflwyno’r pedwar gweithdy a gynhaliwyd ar hyd y dydd.

Daeth pob myfyriwr â’i arbenigedd a’i frwdfrydedd i’r digwyddiad, gan helpu llysgenhadon ifanc ddatblygu sgiliau hanfodol i ysbrydoli ac arwain eu cymheiriaid wrth hyrwyddo gweithgarwch corfforol.

Arweiniodd Tom a Ceiron, myfyriwr Hyfforddi Chwaraeon, y sesiwn ‘Arwain’, a oedd yn canolbwyntio ar roi’r sgiliau i gyfranogwyr drefnu sesiynau gweithgaredd corfforol gan ddefnyddio’r modiwl STEP (gofod, tasg, cyfarpar a phobl/space, task, equipment and people). Helpodd y dull ymarferol hwn y mynychwyr i ddatblygu strategaethau i ymgysylltu ac ysgogi eraill yn effeithiol.

Thomas, myfyriwr Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol, a gyflwynodd y sesiynau ‘Ysbrydoli’. Roedd y rhain yn seiliedig ar ‘Mo’s Mission’, menter a hyrwyddwyd gan Syr Mo Farah, sy’n annog pobl ifanc i gwblhau 60 munud o chwaraeon, ymarfer corff neu chwarae yn ddyddiol.

Lleucu, myfyrwraig Hyfforddi Chwaraeon oedd yn arwain y sesiynau ‘Mentora’, a buodd hi’n arwain y cyfranogwyr i ddeall pwysigrwydd mentora pobl eraill. Rhoddodd Lleucu offer a syniadau ymarferol i rymuso mynychwyr i ddod yn fentoriaid effeithiol yn eu cymunedau.

Yn olaf, Owain, myfyriwr Chwaraeon a Ffitrwydd, oedd yn cyflwyno’r sesiwn ‘Dylanwadu’.  Fe addysgodd ddulliau ar gyfer annog pobl i fabwysiadu ffyrdd o fyw mwy actif, gan ddefnyddio’r model 4S: Chwysu (Sweat) am 60 munud o weithgarwch dyddiol, Camu (Step) i gynyddu cyfrif camau i 10,000 y dydd, Cysgu (Sleep) am 8-11 awr bob nos, ac Eistedd Llai (Sit Less) i leihau amser eisteddog.

Trwy eu cyfranogiad, chwaraeodd myfyrwyr Coleg Sir Gâr ran allweddol yn llwyddiant y gynhadledd, gan ymgorffori thema’r digwyddiad o “ddysgu trwy arwain” ac arddangos effaith gadarnhaol gwaith tîm, mentoriaeth a meddwl creadigol wrth hybu iechyd a ffitrwydd.

Ychwanegodd Stephen Williams, darlithydd yng Ngholeg Sir Gâr, “Bu’n fraint cynnal y digwyddiad a gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid i hwyluso eu gwaith wrth ddatblygu pobl ifanc, i fod yn llysgenhadon dros chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardaloedd. Roedd ein myfyrwyr yn rhagorol ar y diwrnod yn arddangos y sgiliau arwain, hyfforddi a phersonol y maen nhw wedi’u datblygu trwy eu hastudiaethau.”

Three learners sat around a table participating in a workshop and writing on a big a2 paper
Five learners running towards the camera in a sports hall during a workshop

Rhannwch yr eitem newyddion hon