Staff yn creu partneriaethau rhyngwladol cyn anturiaethau myfyrwyr yn Slofenia
Gwella lles trwy fyd natur yw un o’r agweddau allweddol gwnaeth tîm o ddarlithwyr yng Ngholeg Sir Gâr fynd i’r afael â hi cyn bod myfyrwyr yn mynd ar daith i Slofenia.
Gwnaeth y tîm gynnydd wrth greu partneriaethau â chymunedau lleol yn Idrija a chwmni o’r enw More to Explore, a fydd yn datblygu pecyn pwrpasol a hygyrch i fyfyrwyr ar raglenni dysgu sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol.
Bydd y daith, a ariennir gan Taith, ac sydd wedi’i threfnu ar gyfer Mehefin 2025, yn cynnig profiad pum diwrnod o archwilio diwylliant Slofenia i fyfyrwyr ar gyrsiau sgiliau byw’n annibynnol (ILS) a chyrsiau sylfaen.
Bydd dysgwyr ILS o Goleg Ceredigion hefyd yn mynd ar y daith ac mae’r bartneriaeth yn gobeithio meithrin perthnasoedd parhaol rhwng y colegau partner.
Dewiswyd Slofenia oherwydd ei thirweddau godidog o goedwigoedd, mynyddoedd a llynnoedd ac oherwydd ei bod yn hygyrch iawn.
Bydd myfyrwyr yn aros mewn hostel ac yn rhyngweithio â’r gymuned leol a’i phobl ifanc, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau a gweithdai gan gynnwys gwneud les a gŵyl gerddoriaeth leol y mae pobl leol yn ei chynllunio ar gyfer yr ymweliad.
Yn ogystal ag archwilio mynyddoedd a llynnoedd, byddant hefyd yn siopa, yn coginio ac yn dysgu am gyllidebu mewn gwlad wahanol gydag iaith wahanol, gan gynnig profiad unigryw, yn enwedig i’r rheiny nad ydynt erioed wedi gadael y DU.
Meddai Helen Edwards, pennaeth Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS), Dechrau Newydd a Sylfaen yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae Slofenia yn wirioneddol brydferth ac rwy’n meddwl y bydd yn berffaith i’n myfyrwyr.
“Mae’r bobl yn gyfeillgar iawn ac nid yw Idrija yn ardal dwristiaeth ond bydd gennym ni’r arweiniad o hyd gan Mikaela o More to Explore, sy’n rhannu ein gweledigaeth ac a fydd yn rhoi profiad person-ganolog iawn i’n myfyrwyr.”
Ychwanegodd Mikaela Toczec, sylfaenydd More to Explore yn Slofenia: “Fel cyn-ddarlithydd yng Ngholeg Sir Gâr, a sylfaenydd More to Explore, rwy’n llawn cyffro am weithio gyda Tanya, Helen a’r tîm i greu’r antur unigryw hon yma yn fy rhanbarth genedigol Idrija yn Slofenia.
“Rwy’n credu’n gryf y gall amser a dreulir yn yr awyr agored, archwilio lleoedd newydd a chysylltu â diwylliannau newydd arwain at brofiadau pwerus i unrhyw un sy’n cael y cyfle, ac mewn rhai achosion gall y rhain fod yn wirioneddol drawsnewidiol.
“Mae gwneud i hyn ddigwydd ar gyfer grŵp o ddysgwyr o Goleg Sir Gâr yn wirioneddol arbennig ac roeddwn i wrth fy modd yn cael rhannu blas bach o’n coedwigoedd, afonydd, mynyddoedd a’n cymuned, gyda Tanya a Helen ar eu hymweliad ym mis Tachwedd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at eu croesawu yn ôl ym mis Mehefin gyda’r grŵp cyfan.”
Ychwanegodd Tanya Knight, darlithydd a thiwtor cwrs sylfaen Coleg Sir Gâr: “Rwyf wedi gweithio gyda Mikaela o’r blaen yn ystod Her Tri Chopa Cymru i godi arian ar gyfer Gwobr Dug Caeredin. Mae cael y cyfle i ailgysylltu yn Slofenia er mwyn cynnig y cyfle hwn i’n dysgwyr yn wych. Mae gan Mikaela gymaint o brofiad o arwain alldeithiau ac mae hi wedi cysylltu â phobl leol yn Indrija i gynnig pecyn pwrpasol i ni. Mae hyn yn berffaith ar gyfer ymweliad gyda’n dysgwyr i brofi Slofenia Wyllt.”
Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Taith a ddarperir gan y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu
