Skip page header and navigation

Mae Coleg Sir Gar a Cheredigion wedi cyhoeddi chwech Llysgennad Addysg Bellach newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25. 

Mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol bydd y llysgenhadon yn codi ymwybyddiaeth eu cyd-ddysgwyr yn y coleg o fanteision astudio a hyfforddi’n ddwyieithog, a’u hannog i barhau i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y byd gwaith nes ymlaen.

Ymhlith y criw newydd yng Ngholeg Sir Gar a Cheredigion eleni bydd Abigail Williams, Bethan Phillips, Isabelle Wells, Lexie Wells, Mari Lloyd a Menna Bennett.

Meddai Abigail Williams: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddangos i fyfyrwyr y coleg nad yw’r Gymraeg mor galed â beth maent yn eu credu. Hefyd hoffwn annog pobl i ddefnyddio’r iaith Gymraeg, pa bynnag rhugl yr ydynt.”

Meddai Bethan Phillips: “Dwi wir yn edrych ymlaen at fy rôl fel llysgennad Cymraeg am yr ail flwyddyn. Eleni mae gen i ffocws o helpu hybu’r Gymraeg ar fy sianeli cyfryngau cymdeithasol trwy hysbysebu fy ngwaith fel llysgennad.”

Meddai Isabelle Wells: “Pan wnes i adael yr ysgol yn 2020, ges i ddim llawer o gyfle i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn fy nghartref. Fel Llysgennad Coleg Cymraeg, dwi eisiau sicrhau bod pawb yng Ngholeg yn cael y cyfle i ddefnyddio ac ymarfer yr iaith. Dwi hefyd yn edrych ymlaen at ymarfer a gwella fy sgiliau Cymraeg a bod yn rhan o sefyllfaoedd lle dwi’n cael fy ngwthio.”

Meddai Lexie Wells “Dwi’n astudio cwrs gofal plant yng Ngholeg Ceredgion. Rydw i’n edrych ymlaen i rhannu fy sgiliau Cymraeg gydag eraill. Dwi hefyd yn edrych ymlaen at rannu’r pwysigrwydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd.”

Meddai Mari Lloyd: “Dwi’n gyffrous i annog pawb i siarad gymaint o Gymraeg â phosib. Gyda’n gilydd, gallwn wthio i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Edrychaf ymlaen at gwrdd ag eraill sy’n rhannu’r angerdd a’r ymrwymiad at y nod hwn.”

Meddai Menna Bennet: “Rydw i’n edrychaf ymlaen at godi ymwybyddiaeth am yr iaith Gymraeg ar draws Cymru gyfan. Edrychaf ymlaen hefyd i gwrdd â gweddill y llysgenhadon sydd, fel fi, yn benderfynol o godi canran siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod!”

Bydd y llysgenhadon yn dechrau ar eu gwaith y mis yma, a byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg a Coleg Sir Gar a Cheredigion mewn amryw o ddigwyddiadau, yn creu cynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn cynnig syniadau ar sut i hybu’r Gymraeg o fewn ei coleg. 

Mae’r cynllun hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd iddynt i fagu eu hyder a’u sgiliau, ac i fod yn rhan o gymuned Cymraeg ei coleg.

Eleni mae cyfanswm o 40 o lysgenhadon wedi ei penodi gan y Coleg Cymraeg ar draws 12 coleg addysg bellach, ac mae Elin Williams, Rheolwr Marchnata’r Coleg yn falch i weld y cynllun yn tyfu bob blwyddyn. Meddai:

“Mae’r cynllun llysgenhadon addysg bellach yn mynd o nerth i nerth gyda nifer o golegau a’u dysgwyr yn frwdfrydig iawn i fod yn rhan o’r cynllun.

“Erbyn hyn rydym yn cydweithio gyda cholegau o bob cwr o Gymru, ac mae’n braf gweld y berthynas yn datblygu.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda’r criw newydd i gyd ac yn gobeithio yn fawr y byddant yn gallu ysbrydoli eu cyfoedion yn eu coleg i ddefnyddio ac i fod y falch o’i sgiliau dwyieithog.”

I wybod mwy am y llysgenhadon ac i ddilyn y cynllun yn ystod y flwyddyn ewch i wefannau cymdeithasol y Coleg Cymraeg.

Tik Tok, Instagram, X a Facebook: @colegcymraeg

A female student wearing a Coleg Cymraeg hoodie in yellow and grey looking at the camera
A female student wearing a Coleg Cymraeg hoodie in yellow and grey looking at the camera
A female student wearing a Coleg Cymraeg hoodie in yellow and grey looking at the camera
A female student wearing a Coleg Cymraeg hoodie in yellow and grey looking at the camera
A student with a Coleg Cymraeg hoodie on in yellow and grey
student in Coleg Cenedlaethol hoodie (grey and yellow) looking at the camera

Rhannwch yr eitem newyddion hon