Skip page header and navigation

Cyrsiau Byr Amaethyddiaeth

Cyrsiau Byr Amaethyddiaeth

Sgiliau penodol ar gyfer diwydiant

Close-up shot of the side of a blue tractor, the Coleg Sir Gar logo on the side

Intro Text

Eisiau hybu eich sgiliau ym maes ffermio ac amaethyddiaeth?  Mae ein Cyrsiau Byr Amaethyddiaeth yn cynnig hyfforddiant ymarferol i’ch helpu i dyfu eich arbenigedd mewn meysydd allweddol.  P’un a ydych wedi’ch lleoli yng nghefn gwlad neu newydd ddechrau arni, mae gennym ni rywbeth at ddant pawb.  Mae ein cyrsiau yn cwmpasu popeth o yrru tractor, defnyddio plaladdwyr, a chynnal a chadw llif gadwyn, i docio traed gwartheg ac agronomeg.  Wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’ch amserlen, mae’r cyrsiau amaethyddiaeth byr, dwys hyn ymhlith y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn nhirwedd ffermio heddiw.  Perffaith ar gyfer dechreuwyr a ffermwyr profiadol hefyd, mae ein cyrsiau ffermio yn ffordd wych o ennill gwybodaeth o’r byd go iawn

Big Ordered List

01
Enillwch sgiliau ymarferol y gellir eu cymhwyso ar unwaith i'ch tasgau dyddiol, o weithredu peiriannau i reoli gweithrediadau fferm yn effeithlon ac yn ddiogel.
02
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am reoliadau diogelwch a chydymffurfio, gan sicrhau bod eich arferion yn bodloni safonau'r diwydiant a helpu i gynnal amgylchedd gwaith mwy diogel.
03
Gwellwch eich rhagolygon gyrfa trwy ehangu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd, gan agor drysau i gyfleoedd newydd a thwf gyrfa posibl yn y sector amaethyddol.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.