Prentisiaeth mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur (Cwrs Prentisiaeth)
- Campws Pibwrlwyd
Mae’r brentisiaeth hon yn cynnig llwybr cynhwysfawr i unigolion sy’n anelu at ddod yn fecanyddion yn y diwydiant modurol. Ar Lefel 2, mae prentisiaid yn ennill gwybodaeth sylfaenol a sgiliau ymarferol mewn cadw a chynnal ac atgyweirio cerbydau modur, gydag opsiynau ar gael ar gyfer llwybrau cerbydau ysgafn a cherbydau trwm. Mae’r hyfforddiant wedi’i strwythuro fel rhaglen dysgu seiliedig ar waith, gyda phrentisiaid yn mynychu’r coleg ar sail eu rhyddhau am ddiwrnod i ddysgu agweddau theori ac asesiadau cynnal a chadw cerbydau modur. Ar Lefel 3, mae prentisiaid yn dwysáu eu harbenigedd, gan ganolbwyntio ar dechnegau uwch megis datrys diffygion cymhleth a defnyddio cyfarpar diagnostig. Mae’r ddwy lefel yn darparu sgiliau hanfodol mewn llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol, ochr yn ochr â chymwysterau arbenigol mewn cynnal a chadw cerbydau modur.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Mynychu’r coleg ar sail rhyddhau am ddiwrnod
- Dysgu seiliedig ar waith ynghyd â chymhwysiad ymarferol
- Adolygiadau ac asesiadau rheolaidd gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr
Lefel 2:
Mae’r unedau astudio’n cynnwys:
- Diploma Lefel 2 mewn Cymhwysedd Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn
- Diploma Lefel 2 mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 1
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 1
- Sgiliau Hanfodol Cymru Llythrennedd Digidol Lefel 1
Lefel 3:
Mae modiwlau’n cwmpasu pynciau fel:
- Diploma Lefel 3 mewn Cymhwysedd Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn
- Diploma Lefel 3 mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 2
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 2
- Sgiliau Hanfodol Cymru Llythrennedd Digidol Lefel 2
Lefel 2:
- Technegydd cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur lefel 2 cymwysedig
- Symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3 os yn briodol
- Cyflogaeth bosibl mewn swyddi cynnal a chadw ac atgyweirio modurol
Lefel 3:
- Technegydd cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur lefel 3 cymwysedig
- Symud ymlaen i gyrsiau hyfforddi arbenigol pellach, megis ardystiad MOT
- Cyfleoedd cyflogaeth uwch yn y diwydiant modurol
Mae’r dulliau asesu’n cynnwys:
- Gwaith cwrs
- Arholiadau ar-lein
- Arsylwadau seiliedig ar waith
- Tystiolaeth seiliedig ar waith
- Lefel 2: TGAU Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth gradd G neu uwch (neu gymwysterau cyfwerth)
- Lefel 3: Cwblhad rhaglen Brentisiaeth Lefel 2
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
- Deunydd Ysgrifennu
- Efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer ymweliadau addysgol.