
Mae perchen ar gerbyd yn golygu ei bod yn ofynnol i gael prawf MOT bob blwyddyn. Mae hyn yn berthnasol i lawer o gerbydau gan gynnwys beiciau modur, ceir, cerbydau nwyddau trwm i enwi ond ychydig. Mae’r prawf MOT hwn yn helpu sicrhau bod cerbydau’n addas i fod ar y ffordd ac yn ddiogel i’w gyrru.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
- Saesneg
£850 (Cyllid ReAct+ ar Gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen
I wneud yn siŵr bod dysgwyr yn gwbl barod i gyflawni profion MOT caiff amrywiaeth o bynciau eu cwmpasu yn y cwrs hwn. Mae’r rhain yn cynnwys deddfau a rheoliadau perthnasol, offer ar gyfer y dasg, pryd gallwch chi wrthod dechrau prawf, defnydd o’r llawlyfr profi, safonau a gweithdrefnau. Yn ogystal â, dogfennaeth a diogelwch, defnyddio’r gwasanaeth profi MOT ar-lein, archwilio arferol a dosbarthiadau o gerbydau.
Mae’r cwrs cynhwysfawr hwn yn galluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth, sgil a hyder i gyflawni profion MOT. Cyflwynir gan arbenigwyr modurol tra hyfforddedig a phrofiadol gan roi’r profiad dysgu gorau posibl i ddysgwyr.
Cynllunnir y cwrs hwn ar gyfer technegwyr cerbydau modur sy’n gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd ac sydd am gymhwyso mewn profi MOT.
Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd dysgwyr yn gymwys fel profwyr MOT, gan gyflawni’r Safon Galwedigaethol Genedlaethol. Unwaith y dyfernir tystysgrif gwblhau mae’r dysgwr yn gallu gwneud cais i’r DVSA i’w awdurdodi fel profwr MOT.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.