Asesiad Achrededig Technegwr Cerbydau (VTAA) (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws Pibwrlwyd
Mae’r cymhwyster Asesiad Achrededig Technegwyr Cerbydau (VTAA) yn cydnabod gwybodaeth a sgiliau sy’n gyfwerth â lefel 3 ar gyfer technegwyr nad oes ganddynt gymhwyster ffurfiol. Mae’r achrediad yn galluogi technegwyr cerbydau modur sydd wedi gweithio yn eu rolau am bedair blynedd neu fwy i brofi eu galluoedd ar Lefel 3.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
£500 (Cyllid ReAct+ ar Gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae’r cwrs hyfforddi Sylfaen PRINCE2 Agile wedi’i gynllunio i roi’r wybodaeth, y technegau a’r derminoleg sydd eu hangen ar ddysgwyr i lwyddo yn eu harholiad PRINCE2, yn ogystal â’u paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus a hyderus mewn rheoli prosiectau.
Trwy gwblhau’r cwrs hwn bydd dysgwyr yn elwa o gymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang. Yn ogystal â gwella eu rhagolygon gyrfa a dysgu gan hyfforddwyr arbenigol sydd â phrofiad helaeth yn y maes hwn.
Mae’r cwrs PRINCE2 Agile yn berffaith ar gyfer y rheiny sy’n newydd i PRINCE2 ond sydd eisoes yn gyfarwydd â’r broses Agile i ryw raddau. P’un a yw unigolion eisoes yn gweithio mewn tîm rheoli prosiect, yn dymuno dilyn gyrfa fel rheolwr prosiectau neu’n rhan o swyddogaeth cefnogi rhaglenni, bydd y cwrs hwn yn addysgu dysgwyr sut i gymhwyso PRINCE2 ac Agile gyda’i gilydd o fewn eu gwaith prosiect yn hyderus.
Bydd unigolion sydd â chymhwyster PRINCE2 Agile yn gallu gweithio mewn bron unrhyw sefydliad yn y DU a thramor gyda’r cyfle i gynyddu eu potensial i ennill cyflog yn sylweddol dros amser.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.