Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 2 (Cwrs Coleg)
- Campws Pibwrlwyd
Mae gweithio yn y diwydiant cerbydau modur yn gyfle cyffrous i ddefnyddio eich sgiliau datrys problemau a’ch sgiliau mecanyddol i helpu pobl fynd yn ôl ar y ffyrdd a bod yn ddiogel arnynt.
Mae mecanics cerbydau’n gyfrifol am ddiagnosio, atgyweirio, a chynnal a chadw cerbydau, gan sicrhau eu bod yn gweithio’n iawn.
Bydd y rhaglen ddysgu hon yn eich galluogi i ennill cymhwyster galwedigaethol cysylltiedig cydnabyddedig mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur ysgafn.
Ymgymerir â chyflwyno’r rhaglen mewn cyfleuster pwrpasol, sydd â gweithdai wedi eu cyfarparu â’r offer a’r cyfarpar diweddaraf a ddefnyddir yn y sector cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur.
Bydd y cwrs yn rhoi profiad dysgu pleserus, ysgogol a heriol i chi, gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar fecanic cerbydau modern.
Mae’r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar wella eich hyder, cyflogadwyedd a rhagolygon entrepreneuriaeth.
Hefyd, neilltuir tiwtor personol i chi a fydd yn eich cefnogi gyda’ch cynnydd ac yn darparu gofal bugeiliol i chi trwy gydol y rhaglen.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cyflwynir y rhaglen gan dîm o ymarferwyr addysgu profiadol, sydd hefyd â chymwysterau galwedigaethol a phrofiad galwedigaethol.
Mae’r tîm yn cadw cysylltiadau cryf â’r sector cerbydau modur ac yn ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus i sicrhau bod addysgu a dysgu’r rhaglen yn gyfredol ac yn berthnasol.
Yn ystod y flwyddyn academaidd, mae dysgwyr yn cael cyfleoedd i ymgymryd â phrofiad gwaith, gan eich galluogi i ddatblygu, atgyfnerthu a chymhwyso eich astudiaethau. Hefyd, cewch y cyfle i fynd ar ymweliadau addysgol sy’n anelu at gyfoethogi eich astudiaethau, ysbrydoli dysgu a chodi dyheadau.
Mae’r unedau o fewn y rhaglen yn cynnwys y setiau pwnc gwybodaeth a sgiliau cerbydau modur canlynol:
- Iechyd, diogelwch a chadw trefn dda
- Rolau swyddi cefnogi
- Deunyddiau, ffabrigo, offer a dyfeisiau mesur
- Cynnal a chadw arferol
- Systemau mecanyddol, iro ac oeri injan
- Systemau tanwydd, tanio, aer a gwacáu
- Systemau trydanol
- Systemau siasi
- Systemau trawsyrru a llinell yriant
Yn ogystal â’r unedau uchod, bydd dysgwyr hefyd yn gweithio tuag at y cymwysterau canlynol.
- Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif
- Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
Os oes angen, mae’r coleg yn cynnig cyfle i chi ailsefyll eich TGAU mewn Saesneg iaith a mathemateg yn ystod y cwrs.
Bydd cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, gyda phresenoldeb da a’r graddau TGAU gofynnol yn caniatáu symud ymlaen i Ddiploma lefel tri mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn neu raglen brentisiaeth.
Asesir gwybodaeth bynciol a sgiliau trwy brofion amlddewis ar-lein, asesiadau ysgrifenedig ac asesiadau tasgau ymarferol.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Byddem angen Diploma lefel un mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur, gan ddangos presenoldeb a graddau da. Cymwysterau TGAU neu gyfwerth ar radd D neu uwch mewn Saesneg neu Gymraeg iaith a mathemateg.
Bydd ymgeiswyr yn cael cynnig lle yn seiliedig ar gyfweliad llwyddiannus i ganfod eu haddasrwydd ar gyfer y rhaglen.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.