Skip page header and navigation

Cynnal ac Atgyweirio Cerbydau Lefel 1 (Cwrs Coleg)

  • Campws Pibwrlwyd
1 flwyddyn

Mae gweithio yn y diwydiant cerbydau modur yn gyfle cyffrous i ddefnyddio eich sgiliau datrys problemau a’ch sgiliau mecanyddol i helpu pobl fynd yn ôl ar y ffyrdd a bod yn ddiogel arnynt.

Mae mecanics cerbydau’n gyfrifol am ddiagnosio, atgyweirio, a chynnal a chadw cerbydau, gan sicrhau eu bod yn gweithio’n iawn.

Mae’r rhaglen ddysgu hon yn rhoi cyflwyniad i chi i fyd mecaneg cerbydau modur ac yn eich helpu i ennill cymhwyster galwedigaethol cysylltiedig cydnabyddedig mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur ysgafn.

Ymgymerir â chyflwyno’r rhaglen mewn cyfleuster pwrpasol, sydd â gweithdai wedi’u cyfarparu â’r offer a’r cyfarpar diweddaraf a ddefnyddir yn helaeth yn y sector cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur.

Bydd y rhaglen yn rhoi profiad dysgu pleserus, ysgogol a heriol i chi, gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar fecanic cerbydau modern.  Mae’r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar wella hyder, cyflogadwyedd a rhagolygon entrepreneuriaeth dysgwyr.

Neilltuir tiwtor personol i chi a fydd yn eich cefnogi gyda’ch cynnydd ac yn darparu gofal bugeiliol i chi, trwy gydol y rhaglen.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Iaith:
  • Cymysg
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Cyflwynir y rhaglen gan dîm o ymarferwyr addysgu profiadol, sydd hefyd â chymwysterau galwedigaethol a phrofiad galwedigaethol.

Mae’r tîm yn cadw cysylltiadau cryf â’r sector cerbydau modur ac yn ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus i sicrhau bod addysgu a dysgu’r rhaglen yn gyfredol ac yn berthnasol.

Hefyd, cewch y cyfle i fynd ar ymweliadau addysgol sy’n anelu at gyfoethogi eich astudiaethau, ysbrydoli dysgu a chodi dyheadau.

Mae’r unedau o fewn y rhaglen yn cynnwys y setiau pwnc gwybodaeth a sgiliau cerbydau modur canlynol:

  • Iechyd, diogelwch a chadw trefn dda 
  • Technoleg cerbydau a dulliau a phrosesau’r gweithdy   
  • Rolau swyddi cefnogi 
  • Cynnal a chadw arferol 
  • Systemau injan
  • Systemau trydanol
  • Systemau siasi
  • Unedau llinell yriant

Yn ogystal â’r unedau uchod, byddwch hefyd yn gweithio tuag at y cymwysterau canlynol:

  • Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif
  • Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu

Os oes angen, cewch gyfle i ymgymryd â datblygu TGAU Saesneg iaith a mathemateg, fel rhan o’r cwrs.

Bydd cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, gyda phresenoldeb da a’r graddau TGAU gofynnol yn caniatáu symud ymlaen i Ddiploma lefel dau mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur neu raglen brentisiaeth.

Asesir gwybodaeth bynciol a sgiliau trwy brofion amlddewis ar-lein a chyfuniad o asesiadau ymarferol a theori.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynnwn fod gennych gymwysterau TGAU ar radd E neu uwch mewn Saesneg neu Gymraeg iaith, a mathemateg ynghyd ag un TGAU arall (yn ddelfrydol gwyddoniaeth).   

Bydd ymgeiswyr yn cael cynnig lle yn dilyn cyfweliad llwyddiannus ac asesiadau sgiliau sylfaenol i ganfod eu haddasrwydd ar gyfer y rhaglen.    

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.