Skip page header and navigation

Brecio Aer HGV / EBS / ABS (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws Pibwrlwyd
1 Ddiwrnod
Gweithio at safon lefel 3

Breciau yw’r system ddiogelwch bwysicaf mewn cerbyd ac mae hyn yn fwy perthnasol byth i Gerbydau Nwyddau Trwm. Defnyddir breciau aer ar gerbydau trwm am nifer o resymau. Yn bwysicaf oll, defnyddir breciau aer ar gerbydau trwm oherwydd profwyd eu bod yn gallu stopio’r cerbydau hyn yn ddiogel.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Ddiwrnod
Gofynion mynediad:
Gweithio at safon lefel 3

£300 (Cyllid ReAct+ ar Gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi gwell gwybodaeth gyffredinol i ddysgwyr, gan gwmpasu cydrannau a chanfod diffygion sylfaenol. Bydd dysgwyr yn cael yr hyfforddiant diweddaraf wrth weithio ar gerbydau LGV a PCV i wella eu dealltwriaeth o systemau brecio modern a diagnosteg.

Asesir y cwrs hwn trwy arsylwi gyda dysgwyr yn derbyn Tystysgrif Coleg Sir Gâr ar ôl ei gwblhau. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, gall dysgwyr ddisgrifio gwneuthuriad a dull gweithredu systemau breciau aer cywasgedig mewn tryciau, bysiau a threlars. Mae’n rhoi’r wybodaeth a’r hyder i ddysgwyr gyflawni’r gwaith o brofi ac addasu systemau breciau aer cywasgedig a chyfarpar yn ogystal â’r gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio dilynol.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer mecanyddion gweithdy, technegwyr gwasanaethu neu beirianwyr sy’n edrych am yr hyfforddiant diweddaraf ar gyfer gweithio ar gerbydau LGV a PCV i wella eu dealltwriaeth o systemau brecio modern a diagnosteg.

Gallai’r cwrs hwn roi gwybodaeth gefndirol ragorol i’r dysgwr fel ar gyfer datblygu ei sgiliau ymhellach mewn meysydd fel archwilio diogelwch neu ddiagnosteg uwch.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.