Trafod Rhewyddion Aerdymheru (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws Pibwrlwyd
Dyma gyfle i’r rheiny sy’n gweithio yn y diwydiant cerbydau modur ddiweddaru eu sgiliau a’u datblygiad proffesiynol i ddysgu’r sgiliau sy’n ofynnol mewn perthynas â system aerdymheru cerbyd.
Mae deddfwriaeth yr UE yn ei gwneud yn ofynnol i bob technegydd sy’n ymwneud â gwasanaethu, ailwefru ac atgyweirio aerdymheru mewn cerbydau teithwyr a faniau ysgafn gael eu hardystio i wneud y gwaith hwn. Mae’r cwrs Trafod Rhewyddion Aerdymheru hwn wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer technegwyr sy’n gwneud gwaith mewn perthynas â system aerdymheru cerbyd.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
- Saesneg
£500 (Cyllid ReAct+ ar Gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys gwybodaeth hanfodol am wasanaethu systemau aerdymheru cerbydau. Bydd cyfranogwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn gallu nodi holl brif gydrannau system aerdymheru fodurol a nodi eu swyddogaeth a dangos arferion gweithio diogel. Yn ogystal â, chwblhau gwasanaeth aerdymheru modurol nodweddiadol a deall gweithdrefnau iechyd a diogelwch y gwasanaeth aerdymheru.
Asesir y cwrs hwn trwy arsylwi a rhoddir tystysgrif Coleg Sir Gâr ar ôl ei gwblhau. Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, bydd gan gyfranogwyr dystysgrif ddilys i weithio’n gyfreithiol ar systemau aerdymheru cerbydau modur.
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer technegwyr cerbydau neu unrhyw un sy’n gweithio gyda systemau aerdymheru yn y diwydiant modurol. Gall hyn gynnwys unrhyw beth o garejys, mecanyddion symudol, gweithdai corff ceir, datgymalwyr modurol a gwerthwyr.
Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn golygu bod y cyfranogwr yn cydymffurfio â deddfwriaeth yr UE. Gallai hyn arwain at ddilyniant o fewn y diwydiant modurol. Gallai hefyd agor llwybrau i hyfforddiant pellach megis hyfforddiant hybrid neu ADAS.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.