Dyfarniad Lefel 3 mewn Rheoli Canolfan Brofi MOT (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws Pibwrlwyd
Nod y cwrs hwn yw darparu’r wybodaeth ddeddfwriaethol a’r wybodaeth cydymffurfio i ddysgwyr sydd eu hangen i reoli canolfan brofi MOT, annog gwelliannau mewn gwasanaeth cwsmer, cynorthwyo datblygu a goruchwylio staff a sefydlu dealltwriaeth o systemau ansawdd ac archwilio’r ganolfan.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
- Saesneg
£600 (Cyllid ReAct+ ar Gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae pynciau a gwmpesir yn y cwrs hwn yn cynnwys rheoli gofynion deddfwriaethol a chydymffurfio canolfan brofi MOT, delio gyda phroblemau gwasanaeth cwsmer a chwynion, datblygu a goruchwylio staff o fewn canolfan brofi a systemau ansawdd ac archwiliadau canolfan brofi.
Cyflwynir gan arbenigwyr modurol tra hyfforddedig a phrofiadol gan roi’r profiad dysgu gorau posibl i ddysgwyr.
Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer y rheiny sydd am ddechrau eu cyfleuster profi MOT eu hunain neu gyflawni rôl reoli mewn cyfleuster profi MOT.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd dysgwyr yn gallu rhedeg gorsaf brofi MOT neu oruchwylio cyfleuster sy’n gwneud profion MOT.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.