Egwyddorion Ffitio Cerbydau Ysgafn - Diploma Lefel Mynediad (Cwrs Coleg)
- Campws Pibwrlwyd
Mae’r Diploma Lefel 2 mewn Egwyddorion Ffitio Cerbydau Ysgafn wedi’i gynllunio i roi i ddysgwyr y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni tasgau egwyddorion ffitio cerbydau ysgafn i safon alwedigaethol.
Caiff y cwrs ei gyflwyno mewn cyfleuster pwrpasol, sydd â gweithdai sy’n cynnwys: y cyfarpar a’r offer diweddaraf a ddefnyddir o fewn y sector ffitio cerbydau modur; nifer o gymhorthion addysgu a dysgu er mwyn datblygu sgiliau ymarferol; ac ystod o gerbydau ysgafn amrywiol, er mwyn ymarfer tasgau ffitio cerbydau cyffredin.
Dyma brofiad dysgu heriol ond pleserus gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau mewn lleoliad garej efelychiadol a realistig sy’n seiliedig ar waith.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cyflwynir y cwrs gan dîm o ymarferwyr addysgu profiadol, sydd â chymwysterau galwedigaethol a phrofiad galwedigaethol.
- Mae cyfleoedd i wella sgiliau Cymraeg dysgwyr, eu rhagolygon o ran cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth;
- neilltuir anogwr bugeiliol a fydd yn cefnogi dysgwyr, drwy gydol y rhaglen ddysgu;
- cymorth astudio os oes angen;
- mynediad i ystafell ffitrwydd / ymarfer;
- ac ymweliadau addysgol
- Iechyd, Diogelwch a Chadw Trefn Dda
- Rolau Swyddi Cefnogi
- Deunyddiau, Ffabrigo, Offer a Dyfeisiau Mesur
- Cynnal a Chadw Arferol
- Archwilio, Atgyweirio a Rhoi Teiars Newydd ar Gerbydau Ysgafn Perfformiad Uchel
- Archwilio a Rhoi Lladdwyr Sioc a Sbringiau Newydd ar Gerbydau Ysgafn
- Archwilio, Addasu a Rhoi Systemau Brecio a Chydrannau Newydd ar Gerbydau Ysgafn
- Gwneud Gwaith Cynnal a Chadw Rheolaidd ar Gerbydau Ysgafn
Bydd dysgwyr sydd â graddau E, neu is, mewn TGAU Mathemateg a Saesneg, yn mynychu dosbarthiadau TGAU perthnasol, gyda’r nod o ennill graddau D i’w galluogi i symud ymlaen i’r rhaglen ddysgu Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn.
- Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn
- Prentisiaeth technegydd ffitio cyflym
- Prentisiaeth sylfaen
Gwybodaeth ddamcaniaethol: Cwestiynau amlddewis ac aseiniadau ysgrifenedig.
Sgiliau ymarferol: Arsylwi gweithrediadau a thasgau’n ymwneud â gweithgareddau ffitio cerbydau.
- Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw Modurol neu gyfwerth
- Un TGAU gradd D neu uwch mewn Mathemateg neu Saesneg
- Un TGAU gradd E mewn Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg
- Canlyniad llwyddiannus yn y cyfweliad cwrs
- Ffi gofrestru £25.
- Ymweliadau addysgol (i’w cadarnhau cyn trefniadau’r tripiau)
Bydd yn ofynnol i ddysgwyr brynu eu deunydd ysgrifennu eu hunain; llyfr ymarferion yn ymwneud â’r cwrs; a chyfarpar diogelu personol. Rhoddir mwy o fanylion a chost y cyfarpar hwn yn ystod y cyfweliad.