Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn (Cwrs Coleg, Lefel 1)
- Campws Aberteifi
Mae dod yn fecanydd yn gallu bod yn ddewis gyrfaol gwerth chweil i’r rheiny sydd â diddordeb mewn gweithio gyda cherbydau ac sy’n mwynhau datrys problemau.
Mae’r rhaglen lawn amser hon yn darparu mynediad-llwybr dysgu i gynnal a chadw cerbydau ysgafn a rolau eraill sydd ar gael yn y diwydiant gwerthu ceir.
Mae’r cyrsiau’n defnyddio cymwysterau difyr ac ysgogol sy’n cyfuno sgiliau a gwybodaeth hefyd.
Bydd y rhaglen ddysgu hon yn eich helpu i ennill cymhwyster galwedigaethol cysylltiedig cydnabyddedig mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur cerbydau ysgafn. Ymgymerir â chyflwyno’r rhaglen mewn cyfleuster pwrpasol, sydd â gweithdai wedi’u cyfarparu â’r offer a’r cyfarpar diweddaraf a ddefnyddir yn helaeth yn y sector cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur.
Yn ystod y rhaglen byddwch yn dysgu i gynnal a chadw ac atgyweirio gwahanol fathau o gerbydau, fel ceir a faniau, ffitio ac ailosod rhannau a theiars a gweithio ar gerbydau hybrid yn ddiogel.
Bydd y rhaglen yn rhoi profiad dysgu pleserus, ysgogol a heriol i chi, gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar fecanydd cerbydau modern. Mae’r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar wella hyder, cyflogadwyedd a rhagolygon entrepreneuriaeth dysgwyr.
Neilltuir tiwtor personol i chi a fydd yn eich cefnogi gyda’ch cynnydd ac yn darparu gofal bugeiliol i chi trwy gydol y rhaglen.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Fel dysgwr llawn amser, disgwylir i chi fynychu’r coleg dri diwrnod yr wythnos ar gyfer sesiynau gwybodaeth greiddiol ac asesiadau ymarferol.
- Pwyslais cryf ar hyfforddiant ymarferol mewn ystod eang o dechnoleg cerbydau
- Gwybodaeth greiddiol hanfodol sy’n rhoi’r theori tu ôl i’r tasgau ymarferol a wneir
- Ymweliadau â gwerthwyr masnachfraint lleol, sioeau a gweithgynhyrchwyr
Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth.
Byddai dilyniant o’r rhaglen hon i gwrs modurol lefel dau, gan weithio tuag at ddod yn dechnegydd modurol cwbl gymwys.
Caiff unedau eu hasesu’n ymarferol yn y gweithdy trwy arsylwi arferion gwaith a thrwy brofion ysgrifenedig ac ar-lein ar gyfer y wybodaeth theori.
Tri TGAU graddau A* - E mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf), mathemateg a gwyddoniaeth. Cyfweliad llwyddiannus i bennu addasrwydd yr ymgeisydd ar gyfer y rhaglen.
Efallai y bydd gofyn i chi ymgymryd â phrawf sgiliau ymarferol fel rhan o’r broses gyfweld.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol