Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn (Cwrs Coleg, Lefel 2)
- Campws Aberteifi
Mae dod yn fecanydd yn gallu bod yn ddewis gyrfaol gwerth chweil i’r rheiny sydd â diddordeb mewn gweithio gyda cherbydau ac sy’n mwynhau datrys problemau.
Bydd y rhaglen ddysgu hon yn eich galluogi i ennill cymhwyster galwedigaethol cysylltiedig cydnabyddedig mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur ysgafn.
Ymgymerir â chyflwyno’r rhaglen mewn cyfleuster pwrpasol, sydd â gweithdai wedi eu cyfarparu â’r offer a’r cyfarpar diweddaraf a ddefnyddir yn y sector cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur.
Nod y rhaglen yw rhoi profiad dysgu pleserus, ysgogol a heriol i chi, gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar fecanydd cerbydau modern.
Mae’r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar wella hyder, cyflogadwyedd a rhagolygon entrepreneuriaeth dysgwyr. Neilltuir tiwtor personol i chi a fydd yn eich cefnogi gyda’ch cynnydd ac yn darparu gofal bugeiliol i chi trwy gydol y rhaglen.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Pan fyddwch yn cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, cewch y cyfle i symud ymlaen i’r diploma lefel tri mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn yng Ngholeg Ceredigion.
Fel arall, gallai llwyddiant ar y cwrs ddarparu llwybr at brentisiaeth neu gyflogaeth yn y diwydiant modurol.
Byddwch hefyd yn dilyn llwybr sgiliau lle byddwch yn datblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Os nad oes eisoes gennych y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch, byddwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Mae’r unedau o fewn y rhaglen yn cynnwys y setiau pwnc gwybodaeth a sgiliau cerbydau modur canlynol:
- Iechyd, diogelwch a chadw trefn dda
- Rolau swyddi cefnogi
- Deunyddiau, ffabrigo, offer a dyfeisiau mesur
- Cynnal a chadw arferol
- Unedau a chydrannau injan
- Unedau a chydrannau trydanol
- Unedau a chydrannau siasi
- Unedau a chydrannau llinell yriant
Mae cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn darparu dilyniant i ddiploma lefel tri mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn neu raglen brentisiaeth.
Asesir gwybodaeth bynciol a sgiliau trwy: asesiadau amlddewis ar-lein, asesiadau ysgrifenedig ac arsylwadau tasgau ymarferol.
Bydd angen pedwar TGAU ar raddau A* i D arnoch gyda dwy radd C, gydag un naill ai’n Gymraeg (iaith gyntaf) / Saesneg neu fathemateg.
Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.
Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr sydd â phrofiad blaenorol perthnasol yn y diwydiant.
Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad ac asesiadau sgiliau sylfaenol i bennu eu haddasrwydd ar gyfer y rhaglen.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol