Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 3 (Cwrs Coleg)
- Campws Pibwrlwyd
Mae gweithio yn y diwydiant cerbydau modur yn gyfle cyffrous i ddefnyddio eich sgiliau datrys problemau a’ch sgiliau mecanyddol i helpu pobl fynd yn ôl ar y ffyrdd a bod yn ddiogel arnynt.
Mae mecanics cerbydau’n gyfrifol am ddiagnosio, atgyweirio, a chynnal a chadw cerbydau, gan sicrhau eu bod yn gweithio’n iawn.
Bydd y rhaglen ddysgu hon yn eich galluogi i ennill cymhwyster galwedigaethol cysylltiedig cydnabyddedig mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur ysgafn.
Ymgymerir ag addysgu mewn cyfleuster pwrpasol, sydd â gweithdai wedi’u cyfarparu â’r offer a’r cyfarpar diweddaraf a ddefnyddir yn y sector cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur.
Nod y rhaglen yw rhoi profiad dysgu pleserus, ysgogol a heriol i chi, gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar fecanic cerbydau modern.
Mae’r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar wella eich hyder, cyflogadwyedd a rhagolygon entrepreneuriaeth.
Hefyd, neilltuir tiwtor personol i chi, a fydd yn eich cefnogi gyda’ch cynnydd ac yn darparu gofal bugeiliol i chi trwy gydol y rhaglen.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cyflwynir y rhaglen gan dîm o ymarferwyr addysgu profiadol sydd hefyd â chymwysterau galwedigaethol a phrofiad galwedigaethol.
Mae’r tîm yn cadw cysylltiadau cryf â’r sector cerbydau modur ac yn ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus i sicrhau bod addysgu a dysgu’r rhaglen yn gyfredol ac yn berthnasol.
Yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd gennych gyfleoedd i ymgymryd â phrofiad gwaith, gan eich galluogi i ddatblygu, atgyfnerthu a chymhwyso eich astudiaethau. Hefyd, cewch y cyfle i fynd ar ymweliadau addysgol sy’n anelu at gyfoethogi eich astudiaethau, ysbrydoli dysgu a chodi dyheadau.
Mae’r unedau o fewn y rhaglen yn cynnwys y setiau pwnc gwybodaeth a sgiliau cerbydau modur canlynol:
- Iechyd, diogelwch a chadw trefn dda
- Rolau swyddi cefnogi
- Deunyddiau, ffabrigo, offer a dyfeisiau mesur
- Diagnosio a chywiro diffygion trydanol ategol ar gerbydau
- Diagnosio a chywiro diffygion injan cerbydau
- Diagnosio a chywiro diffygion system siasi
- Diagnosio a chywiro diffygion trawsyrru a llinell yriant cerbydau
Yn ogystal â’r unedau uchod, bydd dysgwyr hefyd yn gweithio tuag at y cymwysterau canlynol.
- Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif
- Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
Mae cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn darparu dilyniant i raglen brentisiaeth.
Asesir gwybodaeth bynciol a sgiliau trwy brofion amlddewis ar-lein, aseiniadau ysgrifenedig ac arsylwadau tasgau ymarferol.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Byddem yn gofyn am:
- Ddiploma Lefel dau mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur.
- Cymwysterau TGAU ar radd C neu uwch mewn Saesneg neu Gymraeg iaith a mathemateg.
Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad i ganfod eu haddasrwydd ar gyfer y rhaglen.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.