Dyfarniad Lefel 1 mewn Ymwybyddiaeth Cerbydau Hydrogen (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Ar-Lein
Mae’r diwydiant adwerthu modurol yn parhau i weld tuedd gynyddol mewn gwerthiant cerbydau hydrogen. Mae ein cwrs ymwybyddiaeth o gerbydau hydrogen wedi’i gynllunio i baratoi ymgeiswyr ar gyfer y farchnad newidiol trwy eu gwneud yn ymwybodol o beryglon posibl a’u haddysgu am yr arferion gwaith diogel diweddaraf.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
- Saesneg
£180 (Cyllid ReAct+ ar Gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae’n cynnwys un uned orfodol sy’n cwmpasu:
- y mathau o gerbydau hydrogen sydd ar gael
- peryglon sy’n gysylltiedig â systemau cerbydau hydrogen
- gweithio’n ddiogel o gwmpas cerbydau hydrogen gan gynnwys ail-lenwi â thanwydd
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un a all ddod i gysylltiad â cherbydau hydrogen, gan gynnwys mecanyddion, rheolwyr, faletwyr, ymgynghorwyr cydrannau, personél achub cerbydau, a gyrwyr cerbydau hydrogen.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.