Rheoli Arian a Chyllidebu (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Holwch am leoliad
Mae rheoli arian a chyllidebu yn effeithiol yn rhan hanfodol o’n bywydau. Mae’r cwrs hwn yn edrych ar ‘Cyfrifiadau Gwell Eich Byd’. Ar gael mewn lleoliadau amrywiol yn ardal Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae’r cwrs Rheoli Arian a Chyllidebu ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu cyllidebu. Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn cael y sgiliau i fod yn fwy hyderus gyda mathemateg er mwyn rheoli eich cyllid personol yn well. Os ydych chi’n poeni am gost byw presennol ac yr hoffech chi gael cymorth gyda chyllideb / rheoli arian yna mae’r cwrs hwn yn lle ardderchog i ddechrau.
Mae Coleg Sir Gâr yn falch o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru a Phartneriaeth ACL Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod cyrsiau ar gael mewn 25+ o leoliadau ar gyfer y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.
- Cymorth i greu cyllidebau aelwydydd wythnosol neu fisol
- Cymorth i nodi arferion gwario ac arbed
Unrhyw un sy’n ddi-waith, ar incwm isel, neu gyflogaeth incwm isel sy’n dymuno newid rolau. Rhaid i chi fod yn 19+ oed, yn byw yn ardal Sir Gaerfyrddin / Ceredigion heb gymhwyster mathemateg TGAU gradd C neu uwch.