Gwella Rhifedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Holwch am leoliad
Sesiynau rhifedd bach ar gyfer gweithwyr sy’n gweithio mewn gwahanol sectorau.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Disgrifiad o'r Rhaglen
Unedau dysgu rhifedd bach sy’n diwallu anghenion cyflogwyr ac yn gwella sgiliau rhifedd y rhai sy’n gweithio yn ardal Sir Gaerfyrddin / Ceredigion. Bydd cyrsiau wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion y cyflogwr, ond mae enghreifiau’n cynnwys mesur, cyfrifo meintiau, trin arian, defnyddio Excel, rheoli archebion, neu unrhyw anghenion rhifedd eraill a nodwyd. Bydd y dysgu’n digwydd naill ai yn safle’r cyflogwr neu mewn lleoliad cymunedol.
Mae Coleg Sir Gâr yn falch o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru a Phartneriaeth ACL Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod cyrsiau ar gael mewn 25+ o leoliadau ar gyfer y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.
- Dysgu bach pwrpasol
- Hyfforddiant wedi’i deilwra i weithle’r cyfranogwyr
- Dysgu mewn grŵp bach
Unrhyw un sy’n cael ei gyflogi yn ardal Sir Gaerfyrddin / Ceredigion heb gymhwyster mathemateg ar radd C neu uwch.