
Cymorth Mathemateg ar gyfer Adeiladu Hyder i Gyflogaeth
- Holwch am leoliad
Grŵp sy’n canolbwyntio ar rifedd wedi’i deilwra i anghenion unigol, yn cael ei gyflwyno mewn lleoliadau amrywiol yn Sir Gaerfyrddin / Ceredigion.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Programme Description
Gellir teilwra’r cwrs i’ch anghenion unigol a gall gynnwys rheoli cyllid yr aelwyd a chyllidebu, teimlo’n fwy hyderus wrth helpu eich plant gyda gwaith cartref neu fireinio eich sgiliau rhifedd er mwyn teimlo’n fwy abl i wneud cais am waith.
Mae Coleg Sir Gâr yn falch o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru a Phartneriaeth ACL Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod cyrsiau ar gael mewn 25+ o leoliadau ar gyfer y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.
- Lleoliadau hygyrch
- Dysgu mewn grŵp bach
- Cyfleoedd dilyniant â chymorth
Unrhyw un 19+ oed a hoffai gefnogaeth i ddod yn fwy hyderus mewn materion sy’n gysylltiedig â rhifedd a/neu eisiau ennill cymhwyster achrededig cydnabyddedig yn y pen draw.