
Mae’r cwrs 1 diwrnod rhad ac am ddim hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un a hoffai roi cynnig ar bysgota am y tro cyntaf, neu i bysgotwyr mwy profiadol sydd am wella eu techneg a chael un neu ddau o awgrymiadau arbenigol. Nod y cwrs yw gwella sgiliau lles a rhifedd tra’n rhoi cyfle i gwrdd â phobl eraill sydd hefyd yn mwynhau diwrnod allan yn pysgota.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae’r cwrs hwn yn ddewis delfrydol os ydych chi’n edrych ar loywi eich sgiliau digidol a rhif. Bydd rhifedd yn cael ei ymgorffori yn y cwrs i helpu i wella eich hyder a’ch cymhwysedd wrth ddadansoddi data a datrys problemau. Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn teimlo’n fwy abl nid yn unig wrth ddadansoddi data yn fwy hyderus ond hefyd wrth gymhwyso sgiliau meddwl beirniadol newydd a sgiliau gwneud penderfyniadau.
Mae Coleg Sir Gâr yn falch o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru a Phartneriaeth ACL Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod cyrsiau ar gael mewn 25+ o leoliadau ar gyfer y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.
- Mwy o hyder mewn sgiliau digidol
- Gwell sgiliau rhif
Oedolion 19+ oed nad oes ganddynt TGAU gradd C (neu gyfwerth) mewn mathemateg.