Canolradd Excel a Mathemateg (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Holwch am leoliad
Mae ein cwrs Technegau Taenlenni Lefel 2 yn ffordd wych o wella eich Excel i lefel ganolradd a gwella eich sgiliau mathemateg ar yr un pryd. Byddwch yn ennill dealltwriaeth ddyfnach o fformiwla a ffwythiannau a sut i sicrhau bod y cyfrifiadau mathemategol yn gywir. Gellir astudio’r cwrs hwn mewn dosbarth wyneb yn wyneb, yn eich gweithle neu ar-lein.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
- Pellter
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae’r cwrs hwn yn ddewis delfrydol os oes gennych wybodaeth sylfaenol am fewnbynnu data yn Excel ac yn awyddus i ehangu eich sgiliau ymhellach er mwyn creu eich dogfennau eich hun o’r newydd.
Erbyn diwedd y cwrs hwn byddwch yn teimlo’n hyderus iawn yn y defnydd o Excel i arddangos data rhifiadol, creu ystod o ddogfennau rhifiadol a strwythuro fformiwla fathemategol.
Mae Coleg Sir Gâr yn falch o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru a Phartneriaeth ACL Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod cyrsiau ar gael mewn 25+ o leoliadau ar gyfer y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.
- Achrediad Lefel 2
- Grwpiau Bach neu Astudio Ar-lein
- Datblygu sgiliau rhifedd galwedigaethol
Unrhyw oedolyn 19+ oed sy’n byw neu’n gweithio yn ardal Sir Gaerfyrddin/Ceredigion. Bydd angen dealltwriaeth sylfaenol arnoch o ddefnyddio cyfrifiadur, ac os byddwch yn astudio ar-lein bydd angen eich gliniadur neu gyfrifiadur pen desg eich hun gyda Microsoft Excel wedi’i osod ymlaen llaw.