Cwrs Coginio 3,2,1...Coginio! (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Holwch am leoliad
Mae 3,2,1…Coginio! yn gwrs byr ar gyfer cyfranogwyr sydd eisiau cael hwyl yn coginio tra’n gwella ac ennill hyder mewn sgiliau mathemateg. Ar gael mewn gwahanol leoliadau yn ardal Sir Gaerfyrddin / Ceredigion.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Disgrifiad o'r Rhaglen
3,2,1…Coginio! Ar gyfer unrhyw un fyddai’n ho archwilio eu sgiliau coginio tra’n gwella eu hyder mewn sgiliau mathemateg sylfaenol sydd eu hangen yn y gegin. Byddwch yn gwneud un pryd fesul sesiwn wrth gael eich tywys trwy’r mathemateg o fewn y rysáit. Byddwch yn cael eich annog i aros a bwyta ar ddiwedd y sesiwn, ac ar rai achlysuron mynd â rhywfaint o fwyd adref i’w rannu! Byddwch yn cael eich cefnogi i ymdopi ag unrhyw ofn a allai fod gennych chi o fathemateg, i fagu eich hyder ac yn y pen draw adnabod eich potensial rhifedd.
Mae Coleg Sir Gâr yn falch o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru a Phartneriaeth ACL Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod cyrsiau ar gael mewn 25+ o leoliadau ar gyfer y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.
Pysgota llyn 1 diwrnod AM DDIM yn Sir Gaerfyrddin.
Hyfforddiant arbenigol AM DDIM.
Cinio a lluniaeth am ddim.
Sialens Bysgota ryngweithiol am ddim.
Trwydded bysgota 1 diwrnod am ddim (os oes angen)
Oedolion 19+ yn enwedig y rhai sydd â diffyg hyder mewn perthynas â’u sgiliau mathemateg beunyddiol swyddogaethol.