Skip page header and navigation

Taenlenni a Mathemateg Sylfaenol (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Holwch am leoliad
I’w gadarnhau

Cyflwyniad i daenlenni EXCEL sylfaenol a fydd yn gwneud eich bywyd gwaith yn haws. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddeall yn well sut y gallwch chi ddefnyddio taenlenni i gwblhau cyfrifiadau yn gyflym ac yn gywir, cofnodi a hidlo data, a chreu siartiau a graffiau i gefnogi adrodd.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
I’w gadarnhau

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae’r cwrs hwn yn ddewis delfrydol os ydych chi’n edrych ar loywi eich sgiliau Excel. Bydd rhifedd yn cael ei ymgorffori yn y cwrs i helpu i wella eich hyder a’ch cymhwysedd wrth fformatio celloedd, cymhwyso hidlwyr a defnyddio fformiwlâu. Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn teimlo’n fwy abl wrth ddefnyddio Excel i wella eich sgiliau mewn dysgu a thechnoleg ddigidol.

Mae Coleg Sir Gâr yn falch o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru a Phartneriaeth ACL Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod cyrsiau ar gael mewn 25+ o leoliadau ar gyfer y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.

  • Grŵp bach (uchafswm o 8 dysgwr)
  • Tiwtor gwybodus cyfeillgar
  • Cwrs cyflwyniad i daenlenni EXCEL sylfaenol a fydd yn gwneud eich bywyd gwaith yn haws

Unrhyw oedolyn 19+ oed sy’n byw yn ardal Sir Gaerfyrddin / Ceredigion. Bydd angen i chi gael dealltwriaeth sylfaenol o ddefnyddio cyfrifiadur a chael mynediad at liniadur i fynychu’r cwrs.