
Mathemateg bach ar gyfer busnes: Sgiliau rhifedd ar gyfer pobl sy’n dechrau eu busnes eu hunain a/neu ar gyfer y rhai sy’n gyflogedig neu’n rhedeg busnesau bach a chanolig lleol nad oes ganddynt gymhwyster rhifedd Lefel 2.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Disgrifiad o'r Rhaglen
Yn ddelfrydol os ydych chi’n dechrau ar y daith tuag at hunangyflogaeth neu os ydych chi’n berchennog busnes bach, bydd y cwrs hwn yn eich cefnogi gyda chynllunio ariannol, cyllidebu a sgiliau mathemateg sylfaenol craidd eraill sydd eu hangen i redeg busnes.
Mae Coleg Sir Gâr yn falch o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru a Phartneriaeth ACL Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod cyrsiau ar gael mewn 25+ o leoliadau ar gyfer y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.
- Grŵp bach (uchafswm o 8 dysgwr)
- Cefnogaeth wedi’i theilwra gyda thiwtor rhifedd
- Opsiwn modiwl dysgu cyfunol (wyneb yn wyneb ac ar-lein)
- Cyfarfod â phobl eraill mewn lleoliad diogel, â chymorth.
Oedolion 19+ oed sy’n gyflogedig mewn BBaCh neu’n hunangyflogedig nad oes ganddynt radd C eisoes ar gyfer TGAU (neu gyfwerth) mewn mathemateg.