
Cymorth rhifedd i unrhyw un sy’n ddi-waith ac yn awyddus i ennill sgiliau cyflogaeth hanfodol. Bydd y cwrs yn cynnwys mathemateg sylfaenol a sgiliau galwedigaethol sydd eu hangen i symud i gyflogaeth o fewn sector gwaith perthnasol.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Disgrifiad o'r Rhaglen
Bydd y cwrs yn ymgorffori rhifedd mewn gwahanol feysydd gwaith (er enghraifft: swyddfa, gofal iechyd, manwerthu, lletygarwch) er mwyn sicrhau eich bod yn teimlo’n hyderus gyda’r mathemateg sylfaenol sy’n ofynnol ar gyfer eich dewis faes gwaith.
Mae Coleg Sir Gâr yn falch o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru a Phartneriaeth ACL Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod cyrsiau ar gael mewn 25+ o leoliadau ar gyfer y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.
- Tiwtoriaid cyfeillgar, profiadol
- Dysgu mewn grŵp bach
- Dysgu pwrpasol
Oedolion 19+ yn enwedig y rhai sydd â diffyg hyder mewn perthynas â’u sgiliau mathemateg beunyddiol swyddogaethol.