
Cefnogaeth i oedolion di-waith gyda datblygiad rhifedd, a ddarperir yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Disgrifiad o'r Rhaglen
Yn cael ei gyflwyno mewn grwpiau bach yn canolbwyntio ar gefnogi oedolion i symud i gyflogaeth. Mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer oedolion sy’n awyddus i ennill sgiliau cyn gwneud cais am waith. Bydd dysgu yn cael ei deilwra i gyd-destun anghenion unigol, fel arfer, byddwch yn cael eich cyfeirio o’r ganolfan waith neu byddwch yn cymryd rhan mewn gwasanaethau cymorth cyflogaeth eraill.
Mae Coleg Sir Gâr yn falch o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru a Phartneriaeth ACL Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod cyrsiau ar gael mewn 25+ o leoliadau ar gyfer y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.
- Tiwtoriaid cyfeillgar, profiadol
- Dysgu mewn grwpiau bach mewn lleoliad cymunedol
Oedolion 19+ yn enwedig y rhai sydd â diffyg hyder mewn perthynas â’u sgiliau mathemateg beunyddiol swyddogaethol.